Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dilyn, cysylltu a dysgu ar-lein

  • 1

    Dych chi’n defnyddio YouTube? Mae gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sianel YouTube.

  • 2

    Mae’r sianel yn darparu gwybodaeth am gyrsiau, adnoddau, y cynllun Cymraeg Gwaith, cyngor ar sut i gefnogi dysgwyr a llawer mwy.

Syniadau gwrando, gwylio a darllen

Beth am wrando ar bodlediad Dysgu Cymraeg, gwylio stori-fideo Amdani, neu darllen blogs ar-lein? 

Podlediadau

Dydd Miwsig Cymru: Rhys Meirion

Rhiannon Norfolk, dysgwr a thiwtor gyda Dysgu Cymraeg Y Fro, sy’n holi’r canwr a’r cyflwynydd Rhys Meirion.

Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg: Manon Steffan Ros

Y ddysgwraig Gosia Rutecka sy’n holi’r awdures Manon Steffan Ros am ei gwaith.

*Ar gael ar blatfformau ffrydio poblogaidd.

cyfrifiadur

Blogs 

Liz Learns Welsh

Ar hyn o bryd mae Liz Day yn astudio gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd. Darllenwch am ei phrofiadau yn dysgu Cymraeg yn y blog hwn.

Sôn am Lyfra' 

Mae Sôn am Lyfra' yn darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.

Bethan Gwanas yn mwydro am lyfrau

Mae'r awdur a'r tiwtor Cymraeg, Bethan Gwanas, yn adolygu pob math o lyfrau ar ei gwefan. Dilynwch y ddolen i ddarllen mwy. 

Straeon-fideo

Mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol restr chwarae ar YouTube o straeon-fideo y gyfres boblogaidd i ddysgwyr, Amdani. 

*Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y gyfres, ac am restr ddarllen.

Rhestr chwarae Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg