Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Cymraeg y Cynllun Sabothol

Cwrs lefel Sylfaen i athrawon ysgolion cynradd

Manylion y Cwrs

Cwrs i Bwy: Athrawon ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg sydd â rhywfaint o sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg. (Athrawon y Cyfnod Sylfaen a/neu CA2)

Lefel: Cwrs lefel Sylfaen 

Hyd: 1 tymor ysgol, llawn amser.  Tymor yr Hydref fel arfer.

Dull Dysgu: Darpariaeth gyfunol, 3 diwrnod ar-lein a 2 ddiwrnod mewn ‘Hwb’ lleol.

Lleoliad: 3 diwrnod ar-lein a 2 ddiwrnod mewn ‘Hwb’ lleol.

Bwriad y cwrs:

  • Dysgu’r iaith a dysgu sut i addysgu’r Gymraeg yn drawsgwricwlaidd yn effeithiol yn yr ysgol.
  • Dysgu am fethodolegau dysgu iaith er mwyn arfogi’r athrawon â’r sgiliau angenrheidiol i godi safonau nôl yn yr ysgol.
  • Gall yr athrawon wneud cais i barhau i’r cwrs lefel Canolradd ar ôl cwblhau’r cwrs lefel Sylfaen.

Er mwyn mynegi diddordeb mynychu'r cwrs yma, cwblhewch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan.

Cofrestru eich diddordeb

Contact Us