Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Addysg Gymraeg yn denu teulu o Gaergrawnt i Sir Gâr.

Addysg Gymraeg yn denu teulu o Gaergrawnt i Sir Gâr.

Fe wnaeth Hayley Raine-Diplock, a’i gŵr, Alan, benderfynu symud gyda’u teulu ifanc o Swydd Gaergrawnt, i ardal Llanelli, Sir Gaerfyrddin, er mwyn rhoi addysg dwyieithog i’w plant.

Erbyn hyn mae Hayley yn dilyn cwrs Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Sir Gâr, sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Gâr, ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, tra bod ei meibion chwech a phedair mlwydd oed yn ddisgyblion brwd mewn ysgol Gymraeg.

“Cyn dod i Gymru, ro’n i wedi darllen tipyn am addysg Gymraeg, a sut y mae plant yn elwa o fod yn ddwyieithog. Mae’n haws i rai sy’n siarad dwy iaith fynd ymlaen i ddysgu ieithoedd eraill. Mae hyn yn agor pob math o ddrysau iddyn nhw. Roedd hi’n bwysig iawn i ni ein bod ni’n medru rhoi’r cyfle gorau posib i’n plant wrth iddyn nhw ddechrau ar eu haddysg,” meddai

“Ro’n ni’n gwybod hefyd am gynllun Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a dyma ni’n gwneud y penderfyniad – roedd yn rhaid i ni symud i Gymru!”

Mi wnaeth Hayley, sy’n rhedeg ei busnes gwnïo ei hun o’i chartref, ei gŵr Alan, a’u meibion  symud o Ely ger Caergrawnt i fyw yng ngorllewin Cymru yn 2016. Mae gwreiddiau’r ddau yng Nghymru, gyda mam-gu Hayley ar ochr ei mam yn medru siarad yr iaith. 

“Fe wnaeth mam-gu symud o gymoedd y Rhondda pan oedd hi’n ifanc, a chafodd fy mam ei geni yn Lloegr,” meddai Hayley. “Er hynny, mae mam yn cofio ei mam hithau’n canu caneuon iddi yn Gymraeg pan oedd hi’n ifanc. Un o’i hoff ganeuon oedd Cân y Sipsi. Dw i’n mwynhau medru canu caneuon Cymraeg i fy mhlant i erbyn hyn.”

Roedd Hayley a’i gŵr wedi bod ar eu gwyliau i Gymru nifer o weithiau cyn penderfynu eu bod eisiau dod yma i fyw. Fe wnaethon nhw fwynhau ymweld â Llanymddyfri, Llandeilo a Chydweli a syrthio mewn cariad â’r ardal. Yn 2016 gwnaed y penderfyniad i symud i fyw i‘r ardal, ac erbyn Medi 2018, roedd Hayley wedi cofrestru ar gwrs Mynediad, ar gyfer dechreuwyr, gyda Dysgu Cymraeg Sir Gâr.

Erbyn hyn mae Hayley yn teimlo’n rhan o’r gymuned leol, yn mwynhau perfformiadau’r plant yn yr ysgol, ac yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd gyda’r staff a’r athrawon.

“Mae’r ddau ohonyn nhw, yn enwedig yr hynaf, wrth ei fodd bod mam yn dysgu Cymraeg hefyd, ac maen nhw’n fy helpu  i siarad Cymraeg bob dydd. Mae bywyd yn brysur iawn gyda theulu ifanc, ond dw i’n gwneud amser i ymarfer gydag ap Duolingo ar fy ffôn, hyd yn oed os mai dim ond rhyw pum munud y dydd dw i’n llwyddo i’w wneud. Dw i hefyd yn gwneud ymdrech i ofyn cwestiynau yn Gymraeg i’r plant er mwyn cael ymarfer. Mae darllen stori Gymraeg gyda nhw cyn amser gwely yn rhoi llawer o bleser i fi.”

Dros fisoedd yr haf, yr oedd y criw a oedd yn dysgu Cymraeg gyda Hayley yn y dosbarth yn cyfarfod yn gyson er mwyn medru ymarfer siarad y Gymraeg a chymdeithasu.

Yn ôl Hayley, “Mae’n wych cael dysgu mewn dosbarth yn llawn o bobl frwdfrydig a charedig sy’n barod i helpu ei gilydd. Os oes un ohonon ni yn cael trafferth gyda threigladau neu rywbeth arall, mae digon o gymorth ar gael.

“Fy nghyngor i i unrhyw un sy’n ystyried dysgu’r iaith yw i fynd amdani!”

Mae Hayley bellach wedi cwblhau blwyddyn o wersi Cymraeg ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddechrau ar gwrs Mynediad 2 yn Llanelli

Er mwyn dod o hyd i gwrs neu am gyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg, ewch i dysgucymraeg.cymru neu rhowch gynnig ar ein cyrsiau ar-lein sy’n rhad ac am ddim.