Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Bore Coffi Gŵyl AmGen

Bore Coffi Gŵyl AmGen

Dych chi eisiau cwrdd â dysgwyr eraill am sgwrs bob bore yn ystod yr Eisteddfod AmGen fydd yn cael ei chynnal rhwng 1-8 Awst?

Pwrpas Bore Coffi, sy’n rhan o arlwy’r Pentref Dysgu Cymraeg rhithiol, yw cynnig cyfle i ddysgwyr ar wahanol lefelau, o lefel Mynediad i Uwch, ymarfer eu Cymraeg am 10 o’r gloch bob dydd. 

Dewch i ymuno yn yr hwyl a sgwrsio gyda dysgwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.  Bydd angen archebu eich lle trwy gwblhau’r ffurflen hon a nifer o lefydd cyfyngedig sy ar gael felly cyntaf i’r felin.

Mae nifer o ddigwyddiadau diddorol wedi’u trefnu ar gyfer y Pentref Dysgu Cymraeg yn yr Eisteddfod AmGen.  Yn eu plith mae sesiynau blasu i ddechreuwyr a sesiynau codi hyder yn ogystal â chyfle i glywed awduron poblogaidd yn darllen straeon newydd i ddysgwyr.

Mae mwy o wybodaeth am yr Eisteddfod AmGen ar gael yma.