Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ffermwr o Benrhyn Gŵyr yn dysgu Cymraeg er mwyn hybu’r busnes teuluol

Ffermwr o Benrhyn Gŵyr yn dysgu Cymraeg er mwyn hybu’r busnes teuluol
Will Pritchard

Mae ffermwr o Benrhyn Gŵyr wedi penderfynu ymroi i ddysgu Cymraeg yn ei amser sbâr, ac mae’n gobeithio y bydd ei fusnes teuluol, Cig Oen Morfa Bro Gŵyr, yn elwa o’r ffaith ei fod yn dymuno bod yn rhugl yn yr iaith.

Roedd Will Pritchard, sy’n byw yn Llanmorlais, wastad eisiau dysgu’r iaith ers pan oedd yn ifanc, ond fe aeth ati o ddifrif yn 2017, ac mae bellach yn mynychu dosbarth lefel Sylfaen wythnosol yng Ngorseinon, gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei weinyddu gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae ŵyn Morfa Bro Gŵyr yn pori yng ngogledd Gŵyr ac mae blas unigryw arnynt sy’n cynnwys llyrlys, suran, lafant y môr a chlustog Fair.  Mae’r blas arbennig yma yn un y mae cogyddion ac arbenigwyr bwyd fel Delia Smith yn chwilio amdano, ac mae’n cael ei ddosbarthu dros Gymru gyfan a thu hwnt.

Mae’r busnes wedi ennill clod dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae Will wedi ymddangos sawl gwaith ar y teledu a’r radio ar raglenni yn cynnwys ‘The Incredible Spicemen’ a ‘The Kitchen Cabinet with Jay Rayner’ ar BBC Radio 4.  Y flwyddyn nesaf bydd yn ymddangos ar raglen ‘Sam and Shauna’s Big Cook-Out’ a’r gobaith ydy y bydd y gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hwb pellach i’r busnes;

‘‘Dw i’n credu y bydd y busnes yn elwa mewn amrywiol ffyrdd yn y dyfodol o’r ffaith bod fy sgiliau ieithyddol yn gwella. Eisoes, dw i’n manteisio ar bob cyfle i ymarfer fy Nghymraeg gyda chwsmeriaid a dw i wedi dechrau ysgrifennu negeseuon dwyieithog ar ein gwefannau cymdeithasol. Pwy a ŵyr, bosib y byddwn ni’n ymddangos ar S4C rhyw ddydd!’’

Dywedodd Sandra Evans, tiwtor Will:

‘‘Mae wedi bod yn wych gweld datblygiad Will dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf ac edrychaf ymlaen at ei groesawu i’r cwrs lefel Canolradd unwaith y bydd wedi cwblhau’r lefel Sylfaen yn llwyddiannus. Dw i’n mawr obeithio y bydd yn parhau i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn y busnes ac y bydd yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus a rhugl.’’

Er mwyn dod o hyd i gwrs neu am gyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg, ewch i dysgucymraeg.cymru neu rhowch gynnig ar ein cyrsiau ar-lein sy’n rhad ac am ddim.

Llun: Will Pritchard ar y fferm gyda Sam a Shauna o 'Sam and Shauna's Big Cook-Out.'