Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gŵyl Ddarllen yn mynd Amdani am yr eildro

Gŵyl Ddarllen yn mynd Amdani am yr eildro

Bydd gweithdy ysgrifennu creadigol gydag Anni Llŷn a Ffair Lyfrau i Rieni ymhlith uchafbwyntiau ‘Amdani’, Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg rithiol, sy’n cael ei chynnal am yr eildro gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd Anni Llŷn yn cynnal gweithdy ysgrifennu creadigol i ddysgwyr nos Iau 3 Mawrth am 7yh.  Mae’r digwyddiad yn agored i ddysgwyr ar lefel Canolradd + sy’n dymuno rhoi pin ar bapur yng nghwmni’r awdur a’r cyflwynydd adnabyddus.

Anni Llyn

Nod yr ŵyl rithiol, sy’n digwydd rhwng 28 Chwefror a 4 Mawrth, yw dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, 'Amdani', ac annog dysgwyr i fwynhau defnyddio eu Cymraeg trwy ddarllen ystod o ddeunyddiau, boed yn llyfrau, cylchgronau neu wefannau.  Cafodd yr ŵyl ei chynnal ar raddfa fechan y llynedd, ond mae arlwy swmpus wedi’i threfnu ar gyfer eleni.

Bydd cyfle i rieni sy’n dysgu Cymraeg ddarganfod mwy am yr amrywiaeth o lyfrau Cymraeg bywiog, lliwgar a gafaelgar sy ar gael i’w plant, mewn ffair lyfrau rithiol a gynhelir fel rhan o’r ŵyl.  Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys gig gan Robat Arwyn, clwb darllen gyda’r awdur Sarah Reynolds, a sesiwn ioga cadair gyda Laura Karadog a Catrin Jones.

I ddathlu dydd Gŵyl Dewi, bydd y Ganolfan yn cynnal bore coffi yng nghwmni Dysgwr y Flwyddyn, David Thomas.  Bydd modd i ddysgwyr sy’n mynychu wneud cyfraniad i elusen meddwl.org a bydd cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ Eisteddfod Ceredigion 2022 yn cael ei lansio.

Yn ychwanegol, bydd y Ganolfan yn cyhoeddi podlediad rhwng Jo Heyde, wnaeth gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ y llynedd, a’r awdur Caryl Lewis.  Bydd straeon newydd sbon i ddysgwyr yn cael eu cyhoeddi gan Pegi Talfryn a Lleucu Roberts, a bydd enwogion yn datgan beth yw eu hoff lyfrau, a pham ar ffurf fideo.

Mae cystadleuaeth ysgrifennu stori hefyd yn cael ei chynnal fel rhan o’r ŵyl, ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, a bydd y straeon buddugol yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr ŵyl.  Bydd erthyglau dyddiol wedi’u teilwra ar gyfer dysgwyr yn cael eu cyhoeddi ar wefan Golwg 360, ac mae llu o bartneriaid eraill, gan gynnwys BBC Radio Cymru ac S4C, yn bwriadu cefnogi’r ŵyl.

Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi rhestr ddarllen ar gyfer dysgwyr lefel Uwch a Gloywi yn ystod yr ŵyl.

Mae darllen yn ffordd wych i’n dysgwyr fwynhau defnyddio’u Cymraeg, a bydd yr ŵyl yn tanlinellu’r cyfoeth o lyfrau a deunyddiau difyr sy ar gael, gan gynnwys cyfres lwyddiannus ‘Amdani.’ Mae llond trol o ddigwyddiadau wedi’u trefnu a ’dyn ni’n hyderus bod arlwy’r wythnos yn cynnig rhywbeth i ddysgwyr ar bob lefel.

Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.