Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi’r sawl sydd y tu ôl i wefan newydd, We Learn Welsh

Holi’r sawl sydd y tu ôl i wefan newydd, We Learn Welsh

O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?

Heather Broster dw i.  Dw i’n dod o Ganada yn wreiddiol ond mae gen i genedligrwydd deuol (Prydain a Chanada).  O’n i’n arfer dod i Aberdyfi ar fy ngwyliau pan o’n i’n ifanc achos roedd gan fy nain fwthyn yno.  Dw i’n 34 oed ac mae fy ngŵr yn hanner Eidalwr, hanner Ffrancwr ac yn dysgu Cymraeg hefyd.

Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?

Dw i’n teimlo’n angerddol dros ieithoedd yn gyffredinol.  Cyn i mi symud i Gymru, bues i’n byw yn Yr Eidal am chwe blynedd ac yn Siapan am ddwy flynedd lle wnes i ddysgu’r ddwy iaith.  Dw i’n meddwl ei fod o’n syniad da dysgu iaith y wlad lle wyt ti’n byw, a dod i adnabod pobl trwy eu hiaith eu hunain.  Mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o hanes a diwylliant Cymru a fasa hi’n drueni mawr pe bai hi’n diflannu.

Sut/ble wnest ti ddysgu?

Dw i’n dysgu ac yn ymarfer yr iaith mewn sawl ffordd.  Dw i’n mynychu dosbarth yn Nhywyn ers pedair blynedd gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin a dw i’n defnyddio adnoddau ar-lein fel Say Something in Welsh, Anki (ap cerdyn fflach) a Duolingo.  Dw i byth yn colli pennod o Rownd a Rownd neu Codi Pac ar S4C a dw i’n mwynhau dysgu geiriau caneuon gan Bwncath a Meinir Gwilym.  Wnes i gymryd rhan mewn “bŵtcamp” Cymraeg gyda Say Something in Welsh ym mis Mehefin, a dw i’n rhedeg sesiynau sgwrsio yn ein sinema leol unwaith y mis!

Ddeufis yn ôl, wnes i ddechrau gwefan o’r enw We Learn Welsh, lle dw i’n ysgrifennu erthyglau am eiriau, gramadeg ac idiomau Cymraeg.  Trwy wneud hyn, dw i’n gobeithio cefnogi dysgwyr eraill ar eu taith tuag at ruglder a dysgu mwy am yr iaith fy hun.  Mae grŵp Facebook, cyfrif Twitter a chyfrif Instagram We Learn Welsh yn bodoli hefyd.

Pryd a ble wyt tin defnyddio dy Gymraeg?

Mae Tywyn yn dref eithaf Saesnig, felly does gen i ddim llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn ddyddiol.  Wedi dweud hynny, dw i wedi ymuno â chlwb cerdded yn Llanegryn lle mae pawb yn hapus i siarad Cymraeg gyda fi.  ’Dyn ni’n mynd am dro unwaith yr wythnos ac mae’n lot o hwyl!

Dy hoff beth a dy gas beth?

Fy hoff beth ydy ffotograffiaeth a dysgu ieithoedd (wrth gwrs).  Fy nghas beth ydy coffi a siarad yn gyhoeddus!

Beth wyt tin mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?

Dw i’n mwynhau archwilio pob twll a chornel o Gymru a chymryd lluniau gyda fy ngŵr.  ’Dyn ni’n licio gwylio ffilmiau yn ein sinema leol a rhaglenni teledu ar Netflix hefyd.

Dy hoff lyfr Cymraeg?

Y Stelciwr’ gan Manon Steffan Ros.  Ond mae gen i deimlad bydd ‘Llyfr Glas Nebo’, y llyfr dw i wrthi’n darllen ar hyn o bryd, yn cymryd ei le!

Dy hoff air Cymraeg?

Cenfigennus!  Dydy ystyr y gair ddim yn neis iawn ond dw i wrth fy modd gyda’r sŵn.

Unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?

Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau achos mae pawb yn gwneud nhw, hyd yn oed pobl rugl!  Y peth pwysig ydy cyfathrebu a chael hwyl.  Mae’n hynod bwysig ymarfer bob dydd - dydy mynd i ddosbarth unwaith yr wythnos ddim yn ddigon i wella eich Cymraeg!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Swil, brwdfrydig, myfyrgar.

Gwyliwch gyfweliad Heather gyda S4C Dysgu Cymraeg isod.