Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Llwyddiant llyfrau i ddysgwyr yn arwain at ŵyl ddarllen newydd

Llwyddiant llyfrau i ddysgwyr  yn arwain at ŵyl ddarllen newydd

Yn sgil llwyddiant ‘Amdani’, y gyfres o lyfrau i ddysgwyr Cymraeg, bydd Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg yn cael ei chynnal rhwng 4 Mawrth (Diwrnod y Llyfr) ac 11 Mawrth 2021. 

Nod yr ŵyl rithiol, sy’n cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yw annog dysgwyr i ddefnyddio a mwynhau eu Cymraeg trwy ddarllen ystod o ddeunyddiau, boed yn llyfrau, cylchgronau neu wefannau.

Yn ystod yr ŵyl, mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol, bydd stori newydd gan Llŷr Gwyn Lewis, a cherdd newydd gan Terwyn Tomos, enillwyr stolion Eisteddfod AmGen 2020, yn cael eu cyhoeddi.  Bydd straeon fideo dyddiol o’r cyfrolau i ddysgwyr, Ffenest ac Agor y Drws.

Bydd podlediad gyda’r awdur Manon Steffan Ros a’r ddysgwraig Gosia Rutecka a sgwrs fideo rhwng y storiwraig Fiona Collins, cyn enillydd Dysgwr y Flwyddyn, a’r cyflwynydd, Nia Parry.  Bydd eitemau ar Radio Cymru ac erthyglau ar gyfer dysgwyr ar Golwg 360, yn ogystal ag argymhellion llyfrau niferus.

Mae’r gyfres lyfrau Amdani, a lansiwyd yn 2018, yn brosiect ar y cyd rhwng y Ganolfan a Chyngor Llyfrau Cymru.  Mae’r gyfres yn cynnwys amrywiaeth o lyfrau, o storïau, i hunangofiannau a llyfrau ar hanes Cymru, sy’n cael eu cyhoeddi gan weisg amrywiol.

Mae’r gyfres yn cyd-fynd â chyrsiau’r Ganolfan, gyda’r teitlau wedi’u graddoli ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol. 

Mae’r llyfrau yn gwerthu’n gyson, wrth i garfanau newydd fynd ati i ddysgu Cymraeg a symud trwy’r lefelau.  Bellach, mae 27 o lyfrau yn y gyfres, gan gynnwys y ddau deitl diweddaraf sy’n cael eu cyhoeddi cyn bo hir, sef Am Loteri gan Meinir Wyn Edwards a Chwedlau i Ddysgwyr: Ceffylau, gan Fiona Collins.  Mae’r llyfrau wedi’u cyhoeddi gan Y Lolfa, CAA, Atebol, Gwasg Gomer a Gwasg Carreg Gwalch.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae’r gyfres lyfrau i ddysgwyr, ‘Amdani’, wedi gafael yn nychymyg ein dysgwyr a ’dyn ni wrth ein bodd gyda’i llwyddiant. 

“Mae’r ffaith eich bod chi’n gallu codi llyfr Cymraeg difyr, deniadol a’i fwynhau, wrth i chi ddysgu’r iaith, yn rhoi hwb enfawr i’n dysgwyr. 

“Yn sgil llwyddiant y gyfres, ’dyn ni’n falch iawn o gynnal gŵyl ddarllen Amdani.  Mae darllen yn ffordd wych o ymarfer y Gymraeg y tu allan i’r dosbarth, o gryfhau sgiliau a magu hyder.  Bydd y deunyddiau darllen newydd sy’n cael eu cyhoeddi yn ystod yr ŵyl yn gyfle i ddenu hyd yn oed yn fwy o ddysgwyr at ddarllen yn y Gymraeg.”

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, sydd ei hun wedi dysgu Cymraeg: “Mae’r gyfres Amdani wedi llwyddo i ddenu cynulleidfa newydd at ddarllen yn y Gymraeg, gan agor cil y drws ar fyd llawn llyfrau Cymraeg difyr o bob math.  Mae’n amlwg bod galw mawr am lyfrau i ddysgwyr, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r Ganolfan a’r gweisg i gyflwyno teitlau newydd i’r dyfodol. 

“Mae’r ŵyl Amdani yn ffordd ardderchog o adeiladu ar apêl y gyfres a dymunwn bob hwyl i’r Ganolfan gyda’r holl weithgareddau.”

Mae’r Ganolfan yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i gynnal yr ŵyl, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw, Golwg 360 a Chyngor Llyfrau Cymru.  Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.

Mae nifer o’r teitlau Amdani ar gael trwy blatfform e-lyfrau newydd Cyngor Llyfrau Cymru, ffolio.cymru, a’r nofel dditectif i ddysgwyr, Gangsters yn y Glaw, gan Pegi Talfryn, oedd y llyfr cyntaf a brynwyd pan lansiwyd y platfform.