Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

C'mon Cymru!

C'mon Cymru!
Yn y llun, o'r chwith i'r dde, Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS.

 

Partneriaeth newydd yn rhoi’r Gymraeg
a’r gymuned wrth galon pêl-droed Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod ar flaen y gad yn hyrwyddo’r Gymraeg yn lleol ac yn rhyngwladol.

Bellach, diolch i bartneriaeth newydd rhwng y Gymdeithas a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, bydd cefnogaeth i chwaraewyr a staff i gryfhau eu sgiliau Cymraeg, gyda mwy o gyfleoedd i ddysgu a mwynhau’r iaith ar lawr gwlad.

Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd y Ganolfan Genedlaethol yn llunio rhaglen hyfforddi arbennig ar gyfer sgwad a staff cefnogi Cymru, gyda gwersi Cymraeg ar sawl lefel dysgu, o ddechreuwyr i godi hyder.

Bydd cwrs 10-awr, hunan-astudio ar-lein newydd ymhlith yr adnoddau fydd ar gael i dimau a hyfforddwyr lleol, a chefnogwyr Cymru.  Wedi’i deilwra ar gyfer y byd pêl-droed a chwaraeon, bydd y cwrs yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion pob dydd.

Bydd y Gymdeithas yn cyfeirio cefnogwyr at gyrsiau’r Ganolfan Genedlaethol, sy’n cynnwys dosbarthiadau wyneb-yn-wyneb cymunedol, a rhai rhithiol.  Bydd mynediad at 1,500 o adnoddau dysgu digidol, yn ogystal â chynllun ymwybyddiaeth iaith, hefyd yn rhan o’r bartneriaeth.

Mae’r cyfan yn dechrau gyda sesiwn flasu rithiol rad ac am ddim, sy’n cael ei chynnal gan y Ganolfan am 7.00pm nos Iau, 10 Tachwedd.

Bydd ymgyrch ddigidol, ‘Ein Tîm, Ein Hiaith’, wedi’i chefnogi gan y Gymdeithas, hefyd yn cael ei chynnal o gwmpas Cwpan Pêl-droed y Byd.  Y nod fydd denu dysgwyr i gyrsiau newydd ar gyfer dechreuwyr sy’n dechrau ym mis Ionawr.  Mae adnoddau digidol eraill, gan gynnwys gweithgareddau pêl-droed i’r teulu, ar gael ar dysgucymraeg.cymru.

Mae’r Gymdeithas wedi croesawu’r bartneriaeth, gyda’r Prif Weithredwr, Noel Mooney, ymhlith y cyntaf i ddechrau hyfforddiant Cymraeg.

Meddai Noel Mooney: “Mae’r Gymraeg yn rhan fawr o’n diwylliant pêl-droed ac yng ngemau Cymru, adref ac oddi cartref, dych chi’n clywed y Gymraeg o’ch cwmpas.  Wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan Pêl-droed y Byd yn Quatar, ’dyn ni’n gwybod bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, a ’dyn ni eisiau adeiladu ar ein angerdd at yr iaith, ar ac oddi ar y cae.

“Mae’r bartneriaeth yma yn rhoi cyfle gwych i ni gryfhau ein sgiliau Cymraeg a magu hyder i ddefnyddio a mwynhau’r iaith hyd yn oed yn fwy.  Dw i wedi dechrau dysgu yn barod ar Duolingo ac yn edrych ymlaen at ddysgu mwy!”

Meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, AS, “Mae’n wych i weld y ffordd mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn hyrwyddo ac yn dathlu’r Gymraeg, gan godi proffil yr iaith, adref ac oddi cartref.

“’Dyn ni’n rhannu’r un nod – i weld y Gymraeg yn ffynnu mewn cymunedau ar draws Cymru – ac mae’r bartneriaeth yma yn gam arall tuag at wireddu’r uchelgais hwnnw.”

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae cymuned, cyfeillgarwch a chynwysoldeb yn werthoedd sy’n gyffredin i’r Gymdeithas ac i’r Ganolfan.

“Mae croeso i bawb ddysgu a mwynhau’r Gymraeg gyda ni, a thrwy weithio gyda’r Gymdeithas, ’dyn ni’n gobeithio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.  Byddwn hefyd yn edrych ymlaen at ennyn cefnogaeth i dîm cenedlaethol Cymru o blith ein cymuned ddisglair o siaradwyr newydd yr iaith.”

 

S4C yn penodi Arweinydd Strategaeth Cymraeg

Mae S4C yn cydweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wrth iddi gyflwyno strategaeth newydd sy’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd mwy eang ac amrywiol ac yn gwneud cynnwys Cymraeg yn hygyrch i bob gwyliwr.

I ddatblygu ei hymrwymiad i siaradwyr newydd yr iaith, mae S4C wedi penodi dysgwr Cymraeg i swydd allweddol.  Yn y rôl newydd sbon yma, fel Arweinydd Strategaeth Cymraeg, bydd Sara Peacock, sy’n wreiddiol o Rydychen, yn gyfrifol am dyfu rhai o frandiau S4C ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

Bydd Sara yn cydweithio’n agos gyda’r Ganolfan Genedlaethol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu cynnwys gwreiddiol, deniadol aml-blatfform ar gyfer dysgwyr.  Mae S4C hefyd yn gweithio gyda’r Gymdeithas Bêl-droed i ddatblygu cynnwys o gwmpas Cwpan y Byd sy’n addas ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd, gyda defnydd cynyddol o isdeitlau Saesneg a Chymraeg, sy’n sicrhau bod y cynnwys cyffrous hwn yn hygyrch i gynulleidfa ehangach.

Meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C: “Un o flaenoriaethau S4C yw i groesawu a chefnogi siaradwyr Cymraeg newydd.  Mae ein partneriaeth gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhan hollbwysig o’r amcan yma.

“Fel yr unig ddarlledwr cyhoeddus ar gyfer gemau rhagbrofol y dynion, ’dyn ni wedi rhannu taith y tîm i Gwpan y Byd gyda chefnogwyr Cymru a ’dyn ni wrth ein bodd gyda’r ffordd mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cofleidio’r iaith a’i chyflwyno i gefnogwyr ar hyd y daith.  Mae pêl-droed yn iaith ryngwladol, sy’n dod â phawb at ei gilydd ac sy’n bwysig iawn i ddod â chefnogwyr at S4C i glywed y Gymraeg a mwynhau ein darllediadau arbennig, heb eu hail o’r tîm cenedlaethol.

“Yma yn S4C, mae ymrwymiad gyda ni i groesawu ac i gefnogi siaradwyr newydd y Gymraeg.  ’Dyn ni’n falch iawn bod Sara yn ymuno gyda ni i arwain y gwaith pwysig hwn.”

Diwedd