Sgwrs gyda Paul Woodhouse
Disgrifiad llun: Paul, chwith, ar gwrs Dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn
Mae Paul Woodhouse yn wreiddiol o Morecambe yn Swydd Gaerhirfryn, ond erbyn hyn yn byw yn Hen Golwyn gyda’i wraig Beth a’u dau o blant.
Symudodd i Gymru pan oedd yn 23 oed i astudio ym Mhrifysgol Bangor. Doedd o ddim yn gwybod am y Gymraeg tan hynny.
Roedd yn arfer gweithio fel athro yn Ysgol Eirias, cyn symud i Ysgol Uwchradd Caergybi fel dirprwy bennaeth.
Mae Paul eisiau dysgu Cymraeg ac mae wedi cychwyn ar gwrs Mynediad gyda chynllun arbennig y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer athrawon.
Dyma ychydig o’i hanes:
“Pan wnes i symud i Gymru, do’n i ddim yn gwybod dim byd am yr iaith Gymraeg, na hanes Cymru. Mi ges i swydd ym Mharc Eirias a dysgu rhai ymadroddion syml yn y Gymraeg ond dim llawer.
“Dw i hefyd wedi priodi merch sy’n siarad Cymraeg ac mae ein plant yn mynd i ysgol Gymraeg felly dw i yng nghanol sŵn yr iaith adref – ond ddim yn deall llawer ar hyn o bryd. Dw i wedi rhyfeddu at yr angerdd a’r balchder sydd gan Gymry yn yr iaith ac at eu gwlad, ac mae hwnna yn rhywbeth arbennig iawn am Gymru.
“Felly pan wnes i gychwyn yn Ysgol Uwchradd Caergybi, ro’n i mor falch fod y Gymraeg yn cael ei hannog yn yr ysgol – ymysg y disgyblion a’r staff.
“Mi ges i gynnig mynd ar gwrs 100 awr dysgu Cymraeg dwys, trwy gynllun y Ganolfan Dysgu Cymraeg, ac mi wnes i fachu ar y cyfle.
“Dw i wedi mwynhau fy amser yn Nant Gwrtheyrn yn fawr iawn. Mae’n lleoliad mor brydferth a distaw, ac mae criw gwych ar y cwrs efo fi. Dan ni wedi cael llawer iawn o hwyl!
“Yn y dyfodol, dw i isio sgwrsio efo fy ngwraig a’r plant yn Gymraeg. Dw i isio cyfrannu yn Gymraeg mewn cyfarfodydd yn yr ysgol a deall popeth sy’n mynd ymlaen.
“Fy ngobaith ydy sefyll o flaen athrawon, rhieni a disgyblion a siarad yn ddwyieithog.”
Mae llawer o gyrsiau preswyl yn cael eu cynnal i’r gweithlu addysg yn 2025. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen hon: Cyrsiau Preswyl i'r Gweithlu Addysg | Dysgu Cymraeg