Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Siarad Canllawiau

Dych chi’n cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn ar eich risg eich hunan a disgwylir i chi gymryd bob gofal. Dyma ganllawiau syml i’ch helpu cadw’n ddiogel. 

  • Byddwch yn ofalus i beidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys manylion cerdyn credyd a manylion fel enw eich banc, enw eich anifail anwes neu gyfenw eich mam cyn priodi, y gellid eu defnyddio i gael mynediad at wybodaeth ariannol.
  • Os dych chi’n cymryd rhan yn y cynllun yma, does dim angen i chi rannu eich rhif ffôn, enw eich gweithle nag unrhyw wybodaeth arall ynghylch pwy dych chi.
  • Gallai fod yn syniad da i ddefnyddio cyfeiriad ebost gwahanol i gymryd rhan yn y cynllun.
  • Gwnewch yr un peth â phe bai chi’n cwrdd wyneb-yn-wyneb – trefnwch amser i gwrdd yn rhithiol a chytunwch i sgwrsio am bwnc dych chi’n ei fwynhau.
  • Os oes unrhyw un yn gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu sy’n ymddwyn yn amhriodol, rhowch wybod i’ch darparwr cwrs lleol cyn gynted ag sy’n bosibl.
  • Os dych chi’n penderfynu cwrdd wyneb-yn-wyneb unwaith mae’n bosib gwneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cwrdd mewn man cyhoeddus.