Mae'r Tim Dysgu ac Addysgu'n cynnal sesiynau galw heibio misol ar gyfer tiwtoriaid Dysgu Cymraeg ar ddydd Llun cynta'r mis am 2:00pm. Maen nhw'n gyfle gwych i rannu syniadau ac arferion da, ac i ddysgu am ddatblygiadau newydd ar y Safle Rhyngweithiol.
Dyddiadau Cyfarfodydd 2021/2022: 6 Rhagfyr; 10 Ionawr; 7 Chwefror; 7 Mawrth; 4 Ebrill.
Byddwn yn cadarnhau dyddiadau mis Mai a mis Mehefin maes o law.
I gael dolen y cyfarfodydd, cysylltwch ag Eiry Miles: eiry.miles@dysgucymraeg.cymru