Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ysgoloriaethau Tiwtoriaid Yfory

Cynllun Ysgoloriaeth Tiwtoriaid Yfory

Dych chi’n fyfyriwr? Eisiau blas ar weithio fel Tiwtor Dysgu Cymraeg? Eisiau blas o ddysgu Cymraeg mewn ysgol uwchradd?

Bydd ysgoloriaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cynnig hyd at £2,000 yr un i’r ymgeiswyr llwyddiannus. 

Darllenwch am yr opsiynau sy ar gael isod. Gallwch wneud cais am opsiwn un, opsiwn dau, neu’r ddau ohonynt.

dysgu

Opsiwn 1: Cwrs Tiwtor Dysgu Cymraeg

Yn ystod 10 - 21 Gorffennaf 2023 yng Nghaerdydd, byddwn yn cynnig pythefnos o hyfforddiant, wedi ei ariannu’n llawn, i’ch helpu chi fod yn un o diwtoriaid Dysgu Cymraeg y dyfodol.

Byddwn yn cynnig ysgoloriaethau ar gyfer yr hyfforddiant arbennig yma, sy’n agored i fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru a thu hwnt.

Byddwn hefyd yn cynnig grant o £1,000 yr un, yn ogystal â chostau llety a chynhaliaeth, i’r ymgeiswyr llwyddiannus.

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Yn ystod yr hyfforddiant, byddwch yn dysgu:

  • Sut i fod yn diwtor Dysgu Cymraeg;
  • Egwyddorion sylfaenol addysgu, dysgu ac asesu;
  • Cynllunio gwersi iaith yn briodol gan ystyried anghenion dysgwyr;
  • Cyflwyno gwersi gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau effeithiol;
  • Defnyddio gwahanol adnoddau, gan gynnwys TG, er mwyn cefnogi’r dysgu.

Bydd y hyfforddiant yn cael ei gynnal yr un pryd â Chwrs Haf Dysgu Cymraeg Caerdydd, fydd yn rhoi cyfle i chi arsylwi a chymryd rhan mewn gwersi. 

Opsiwn 2: Arsylwi mewn ysgol uwchradd

Yn 2023, byddwn yn gallu cynnig cyfle i chi dreulio pythefnos mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu Saesneg yn cael blas o addysgu pwnc y Gymraeg.  

Bydd y lleoliad a’r dyddiad yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd ysgoloriaeth o £500 yr wythnos ar gael ar gyfer hyn.

 

Beth fydd rhaid i mi wneud ar ôl y hyfforddiant?

’Dyn ni’n gobeithio y byddwch awydd mynd ymlaen i wneud cymhwyster llawn i diwtoriaid Dysgu Cymraeg, ‘Dechrau Dysgu’, ond does dim gofyniad i chi wneud hyn.

Mae gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg yn rhywbeth y gallwch ei wneud gyda’r nosau, neu ar benwythnos, ar yr un pryd ag astudio neu ddilyn gyrfa mewn maes arall. 

Ac os dych chi’n meddwl yr hoffech ddilyn gyrfa yn y sector Dysgu Cymraeg, mae’n bosibl hefyd dod yn diwtor llawn amser.

Os byddwch wedi dewis y cyfle i arsylwi mewn ysgol, gall y Coleg Cymraeg eich cynghori ar yr opsiynau er mwyn cymhwyso fel athro neu athrawes.

Mae’r cynllun hyfforddi hwn wedi ei ddatblygu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. ’Dyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.

 

Mae'r dyddiad cau i ymgeisio wedi bod. Diolch yn fawr i bawb am anfon eu ceisiadau. 

Dyma sy gan Mali, Eli a Deio i'w ddweud am y cwrs