Tlws y Tiwtor 2023
Rhoddir y tlws hwn i diwtor Cymraeg sydd yn, neu wedi gwneud, cyfraniad nodedig i'r sector Dysgu Cymraeg. Cyflwynir y Tlws ym Maes D yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddydd Sadwrn 5 Awst a gofynnir i'r enillydd fod yn bresennol.
Gallwch chi naill ai argraffu'r ddogfen PDF hon a'i phostio i:
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ
neu
gallwch chi lenwi'r ffurflen isod yn electronig.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 30 Mehefin 2023.
Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, cysylltwch â swyddfa@dysgucymraeg.cymru