Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Lleisiau lleol Eisteddfod y Garreg Las: Holi Sophie Tuckwood

Lleisiau lleol Eisteddfod y Garreg Las: Holi Sophie Tuckwood

Symudodd Sophie Tuckwood i Sir Benfro o Nottingham, a phenderfynu dechrau dysgu Cymraeg ar ôl cael plant. Mae’n byw yn yr ardal ers 16 mlynedd bellach, ac yn gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg.

Gyda’r ŵyl ar garreg ei drws eleni, buon ni’n ei holi am yr Eisteddfod a’r ardal leol...

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi cymaint o gyfleoedd cyffrous i fi ond dw i’n credu taw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg yw’r bobl. Dw i wedi cwrdd â ffrindiau gwych drwy gydol fy amser yn dysgu Cymraeg ac fel tiwtor. Hefyd, mae’r iaith wedi dechrau llawer o sgyrsiau gyda phobl newydd, yn aml iawn mewn llefydd cwbl annisgwyl. Er enghraifft, ro’n i’n dweud wrth fy mhlant am fihafio yn y lifft wrth fynd lan y Tŵr Eiffel pan glywais i, “Dych chi’n siarad Cymraeg?” Byd bach! Mae'r iaith yn gysylltiad arbennig iawn rhwng pobl. 

Ble mae dy hoff le yn Sir Benfro?

Un lle arbennig i ymweld ag ef yn ystod wythnos yr Eisteddfod fyddai Rosebush, sef pentref bach ger hen chwarel lechi. Mae wrth droed y Preseli ac mae golygfeydd arbennig.

Mae fy ngŵr yn mynd i Rosebush bron bob penwythnos i feicio mynydd.

Beth am fynd i Dafarn Sinc i ymlacio? Mae’n dafarn gymunedol, draddodiadol iawn. Dych chi’n gallu ymarfer eich Cymraeg yno!

Beth yw dy gyngor i ddysgwyr sy’n ymweld â maes yr Eisteddfod?

Efallai ei fod yn amlwg, ond ymarferwch eich Cymraeg! Bydd pawb yn gefnogol ac yn rhoi croeso mawr i chi. Os dych chi’n teimlo’n nerfus, beth am ymarfer ymadroddion defnyddiol cyn i chi fynd? ‘Dw i’n hoffi’r band yma’, ‘Ble mae’r Babell Lên?’, ‘Ga i gwrw, os gwelwch yn dda?’ neu ‘Faint yw’r pris?’ Os oes angen bach o help arnoch chi neu os dych chi eisiau sgwrsio â dysgwyr eraill, dewch i Faes D!

Beth yw dy hoff air neu eiriau tafodieithol sy’n perthyn i ardal Sir Benfro?

Dw i’n hoffi ‘tato newi’ (‘tatws newydd’)! Byddwch chi’n siŵr o weld arwyddion yn gwerthu tato newi ar y ffordd i’r maes. Mae rhywbeth cyfarwydd ac yn annwyl am y geiriau sy’n gwneud i fi feddwl am gymuned amaethyddol glòs. Ac wrth gwrs, gwrandewch mas am y ‘wês, wês!’ (‘oes, oes!’)