Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd dysgucymraeg.cymru

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wybodaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar dysgucymraeg.cymru.

Defnyddio’r wefan hon

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n cynnal y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl ag sy’n bosib yn defnyddio’r wefan. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml ag sy’n bosibl i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gyda chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw’r testun yn ail lifo mewn i golofn unigol wrth newid maint ffenestr y porwr
  • nid oes modd addasu uchder y llinell neu fwlch y testun
  • nid yw nifer o’r hen ddogfennau PDF yn hygyrch
  • nid oes gan y fideos ffrydio byw destun egluro
  • mae rhai o’r ffurflenni ar-lein yn anodd i’w gwe-lywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • nid oes modd symud i’r prif destun drwy ddefnyddio darllenydd sgrin
  • Mae cyfyngiadau wrth wneud y map ar y dudalen ‘cysylltu â ni’ yn fwy

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen yr wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch drwy un o’r dulliau canlynol:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi eto cyn pen 15 diwrnod gwaith. 

Os na allwch weld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, ffoniwch neu anfonwch e-bost i ofyn am gyfarwyddiadau.

Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig â hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi o’r farn nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â swyddfa@dysgucymraeg.cymru.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Ymweld â ni yn bersonol

Pe bai modd i chi gysylltu â ni cyn ichi ymweld gallwn drefnu bod dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn bresennol.

Ewch i’r dudalen cysylltu â ni

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio, sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nodwyd y cynnwys nad yw’n hygyrch isod gyda manylion:

Mae peth cynnwys a swyddogaethau e-ddysgu rhyngweithiol lle nad yw’n bosib ymgymryd â natur y dysgu mewn modd cwbl hygyrch (er enghraifft: dysgu ac asesu penodol mewn gwahanol ddisgyblaethau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Mae tasgau ac asesiadau penodol ar gyfer siarad ond os na allwch siarad ni fydd y dechnoleg a'r cynnwys yn gallu darparu ar gyfer cyfatebiaeth).

Oherwydd natur y pwnc – sef dysgu iaith - mae rhywfaint o gynnwys fideo lle nad yw'n bosibl i is-deitlau, trawsgrifiad neu gapsiynau gyflwyno'r cynnwys mewn ffordd hygyrch (e.e. fideo o wylio a chlywed sut mae llythyren neu lafariad yn cael ei ynganu).

Oherwydd natur y pwnc – sef dysgu iaith - mae rhywfaint o gynnwys sain lle nad yw'n bosibl i is-deitlau drawsgrifiad neu gapsiynau gyflwyno'r cynnwys mewn ffordd hygyrch (e.e. ffeil sain o sut mae llythyren neu lafariad yn cael ei ynganu).

Oherwydd natur y pwnc – sef dysgu’r Gymraeg - nid yw darllenwyr sgrin yn cynnig cyfatebiaeth iaith lwyr yn eu dehongliad o gynnwys i'r Gymraeg.

Ceir enghreifftiau o destun o fewn delweddau sy’n cyfleu ystyr hanfodol wrth ddysgu ac asesu dysgu na ellir eu disodli'n ystyrlon gan destun alt, sy'n golygu nad ywdarllenwyr sgrin yn gallu cael mynediad at y cynnwys hwn a'i ddehongli. 

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Nid oes dewis testun arall ar gyfer rhai delweddau, felly nid yw’n bosib i bobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad at ywybodaeth. Mae hyn yn methu prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (cynnwys nad yw'n destun).

Bwriadwn ychwanegu dewisiadau testun amgen ar gyfer pob delwedd erbyn mis Medi 2021 - mae hyn oherwydd y nifer fawr o ddelweddau a’r ffaith bod deunyddiau yn cael eu diweddaru'n rheolaidd. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn bodloni safonau hygyrchedd.

Baich anghymesur

Llywio a chael gafael ar wybodaeth

Nid yw bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei wneud yn anoddach i wweld cynnwys E-ddysgu gan fod angen dull cynllun sefydlog i gyflawni'r rhyngweithiadau dysgu sydd eu hangen arnom o fewn y cynnwys.

Nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o'r cynnwys orgyffwrdd.

Offer a thrafodion rhyngweithiol

Mae peth cynnwys a swyddogaethau e-ddysgu rhyngweithiol lle nad yw’n bosib ymgymryd â natur y dysgu mewn modd cwbl hygyrch (er enghraifft: dysgu ac asesu penodol mewn gwahanol ddisgyblaethau, siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Mae tasgau ac asesiadau penodol ar gyfer siarad ond os na allwch siarad ni fydd y dechnoleg a'r cynnwys yn gallu darparu ar gyfer cyfatebiaeth).

Oherwydd natur y pwnc - dysgu iaith - mae rhywfaint o gynnwys fideo lle nad yw'n bosibl i is-deitlau, trawsgrifiad neu gapsiynau gyflwyno'r cynnwys mewn ffordd hygyrch (e.e. fideo o wylio a chlywed sut mae llythyren neu lafariad yn cael ei ynganu).

Oherwydd natur y pwnc - dysgu iaith - mae rhywfaint o gynnwys sain lle nad yw'n bosibl i is-deitlau, trawsgrifiad neu gapsiynau gyflwyno'r cynnwys mewn ffordd hygyrch (e.e. ffeil sain o sut mae llythyren neu lafariad yn cael ei ynganu).

Oherwydd natur y pwnc – dysgu’r Gymraeg - nid yw darllenwyr sgrin yn cynnig cyfatebiaeth iaith lwyr yn eu dehongliad o gynnwys i'r Gymraeg.

Rydym wedi asesu'r gost o ddatrys y materion gyda llywio a mynediad at wybodaeth, a chydag offer a thrafodion rhyngweithiol. Credwn y byddai gwneud hynny'n awr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.

Byddwn yn gwneud asesiad arall ymhen 12 mis.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym PDFs gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn eu gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Mae grŵp mewnol wedi'i sefydlu i greu map hygyrchedd er mwyn

dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon.  Bydd y map yn cael ei gyhoeddi pan fydd wedi'i gwblhau.

Llunio’r Datganiad Hygyrchedd hwn

Mae datblygwyr ein gwefan yn cynnal profion a dilysu hygyrchedd a defnydd ar yr holl swyddogaethau a rhyngwynebau platfform craidd terfynol fel rhan o ddatblygiad parhaus AGILE y platfform.

Mae datblygwr y wefan yn profi holl swyddogaethau a nodweddion newydd y platfform fel rhan o'r broses ddatblygu sbrint sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Clystyrau o straeon defnyddwyr yw sbrintiau sy'n disgrifio'r nodwedd/swyddogaeth o safbwynt defnyddiwr (neu bersona) (e.e. Fel dysgwr dw i eisiau gallu gwneud ....) . O fewn cylchoedd y prosiect sbrint, mae straeon defnyddwyr yn cael eu cynnwys o safbwynt defnyddwyr hygyrch. Mae'r rhain yn rhan o'r broses Sicrwydd Ansawdd lle mae'r gwaith canlynol yn cael ei wneud.

  • Profion swyddogaethol – A yw'r nodwedd neu'r swyddogaeth yn gwneud yr hyn mae’n dweud bod angen iddo ei wneud yn stori'r defnyddiwr
  • Profion technegol – a yw'r ateb technegol wedi'i weithredu'n llwyddiannus o ran cod, perfformiad a thechnolegau a ddefnyddir
  • Profion defnyddiadwyedd – a yw'r nodwedd/swyddogaeth yn syml ac yn reddfol i'w defnyddio o safbwynt y defnyddiwr terfynol
  • Profion hygyrchedd – Profi yn erbyn canllawiau WCAG 2.0 a 2.1. Rydym yn ymdrechu i fodloni lefelau AA wrth brofi yn erbyn agweddau Perceivable, Gweithredol, Dealladwy a Chadarn ar y canllawiau.

Defnyddir yr offer a'r dulliau isod wrth brofi.