Cronfa Ariannol
Cronfa Ariannol Wrth Gefn
Eisiau cymorth ariannol wrth ddysgu Cymraeg?
Mae cymorth ar gael drwy’r Gronfa Ariannol wrth Gefn i Ddysgwyr.
I fod yn gymwys, rhaid i chi gadarnhau:
- Eich bod yn wynebu caledi ariannol ac y byddai’n anodd cael mynediad i’ch hastudiaethau heb gymorth o’r fath,
- Eich bod wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg gydag un o Ddarparwyr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol,
- Eich bod yn 16 mlwydd oed neu hŷn ar 1 Medi 2021 ac
- Eich bod yn breswyliwr yn y DU neu’r DE am o leiaf 3 blynedd
Mae posib cael cymorth ariannol i'ch helpu gyda chostau fel
- gofal plant
- ffi arholi
- adnoddau
- costau teithio
*Nid oes modd hawlio cymorth at ffioedd cwrs
Am fwy o wybodaeth, darllenwch:


Mae angen e-bostio cais wedi ei gwblhau yn llawn erbyn y dyddiad cau fan bellaf at cyllid@dysgucymraeg.cymru neu ei bostio at:
Swyddog Gweithredol Cyllid
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EP
Blwyddyn Addysgol |
Hawliad am y Cyfnod |
Dyddiad Cau Ceisiadau |
2021/22 |
Tymor 1 (Medi 2021 – Rhagfyr 2021) |
07.01.2022 |
2021/22 |
Tymor 2 (Ionawr 2022 – Mawrth 2022) |
01.04.2022 |
2021/22 |
Tymor 3 (Ebrill 2022 – Awst 2022) |
15.07.2022 |
2021/22 |
Ysgolion Haf Yn Unig (Gorffennaf 2022 – Awst 2022) |
26.08.2022 |
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y gronfa a/neu'r cais, siaradwch gyda’ch tiwtor/darparwr, neu cysylltwch â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Manylion isod:

Cysylltu â ni
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EP
Ymunwch â ni ar: