Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgu Cymraeg Iechyd a Gofal

O'r camau cyntaf i ddefnyddio'r Gymraeg yn hyderus
I bwy mae'r cynllun?

Mae'r Cynllun Iechyd a Gofal yn cynnig cyrsiau a chymorth i bobl sy'n gweithio yn y maes yng Nghymru sydd eisiau defnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith. O gyrsiau Blasu i gyrsiau Codi Hyder a chyrsiau preswyl, mae rhywbeth ar gael ar gyfer pob lefel.

Edrychwch isod i weld beth sydd ar gael. Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch iechydagofal@dysgucymraeg.cymru.

mwy na geiriau
Cyrsiau Blasu Iechyd a Gofal

Mae'r cyrsiau Blasu yn gyrsiau hunan-astudio byr sy'n eich helpu i ddechrau defnyddio Cymraeg syml yn y gwaith. Maent wedi'u creu ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac sy'n newydd i'r Gymraeg. Mae cefnogaeth gan diwtor ar gael i'ch helpu gyda'ch dysgu.

Mae pob cwrs ar lefel Cyn-A1 (Cyn-Fynediad), CEFR.

Dewiswch y botwm isod i weld y cyrsiau sydd ar gael.

Cyrsiau Codi Hyder

Mae'r cynllun Codi Hyder yn eich helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle. Mae'n cynnig cefnogaeth un-i-un wedi ei deilwra gan diwtor i bobl sydd wedi defnyddio'r Gymraeg o'r blaen ac sydd eisiau dechrau ei defnyddio eto gyda mwy o hyder. Mae'r gwasanaeth ar gael i bob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dewiswch y botwm isod i gael rhagor o wybodaeth.

Cynllun Siarad Iechyd a Gofal

Mae'r Cynllun Siarad Iechyd a Gofal yn paru gweithwyr iechyd sy'n dysgu Cymraeg gyda chydweithwyr sy'n siarad Cymraeg yn hyderus. Nod y cynllun yw rhoi cyfle i ymarfer Cymraeg mewn amgylchedd anffurfiol, cyfeillgar a chefnogol.

Dewiswch y botwm isod am fwy o wybodaeth.

Cyrsiau Preswyl Nant Gwrtheyrn

Mae cyrsiau preswyl ar gael i bobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cynhelir y cyrsiau yn Nant Gwrtheyrn, Canolfan Iaith a Threftadaeth Genedlaethol y Gymraeg, ar Benrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru.

Mae'r cyrsiau pum diwrnod hyn ar gael am ddim i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Maent yn rhoi cyfle i chi wella'ch Cymraeg, magu hyder a defnyddio'r Gymraeg gyda dysgwyr eraill mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.

Dewiswch y botwm isod i ymweld â gwefan Nant Gwrtheyrn a chael rhagor o wybodaeth.

Cyrsiau Gofal Cymdeithasol

Adnoddau Dysgu Cymraeg i weithwyr Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Dewiswch y botwm isod am fwy o wybodaeth.

nhs
Logo
Logo
Mwy na geiriau
logo
logo
logo
logo
logo