Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gweithluoedd

Ein llwybr dysgu Cymraeg ar gyfer gweithluoedd

Dysgu Cymraeg - Gweithluoedd

Mae ein darpariaeth yn helpu unigolion a sefydliadau i ddatblygu sgiliau Cymraeg a defnyddio'r iaith yn hyderus yn y gweithle.

Caiff y ddarpariaeth ei theilwra i anghenion eich sector, gan sicrhau bod y dysgu'n berthnasol ac yn ymarferol.

Byddwn yn gweithio gyda chi i greu rhaglen hyblyg sy'n diwallu anghenion eich gweithlu, boed hynny drwy gyrsiau gyda thiwtor neu gyrsiau hunan-astudio.

Cyrsiau Hunan-Astudio

Rhowch gyfle i'ch staff ddysgu Cymraeg ar eu cyflymder eu hunain gyda'n cyrsiau hunan-astudio. Beth bynnag yw eu man cychwyn, mae llwybr dysgu sy'n addas iddynt. Gallant ddechrau gyda chyrsiau blasu ac yna symud ymlaen i gwrs lefel lawn Mynediad, Sylfaen neu Ganolradd. Mae pob cwrs wedi'i alinio â'r CEFR, y safon ryngwladol ar gyfer mesur a disgrifio sgiliau iaith.

Cyrsiau Dan Arweiniad Tiwtor

Cynigiwch gyfleoedd i'ch staff ddysgu Cymraeg gyda chefnogaeth tiwtor profiadol. Beth bynnag yw eu man cychwyn, mae llwybr dysgu sy'n addas iddynt. Gallant ddechrau gyda chwrs blasu ac yna symud ymlaen i gwrs lefel lawn Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch, neu ddewis cwrs Codi Hyder i ddatblygu'r hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

Cyrsiau Defnyddio - Nant Gwrtheyrn

Rhowch gyfle i'ch staff ddatblygu eu Cymraeg drwy ein cyrsiau preswyl Defnyddio'r Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn. Dros bum niwrnod mewn amgylchedd trochi Cymraeg, byddant yn cryfhau eu sgiliau llafar, yn magu hyder i ddefnyddio'r iaith yn naturiol, ac yn dychwelyd i'r gweithle yn fwy parod i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Cysylltu â ni

Oes gennych gwestiwn? Dewiswch y botwm isod, 'dyn ni yma i helpu.