Yn osgystal ag astudio Cymraeg ar gyfer TGAU, Lefel Uwch Gyfrannol, neu Safon Uwch, mae opsiynau Dysgu Cymraeg ychwanegol ar gael i rai 16+ oed.
Un opsiwn ydy sesiynau rhithiol hwyliog ac ysgafn er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg.
- Sesiynau byrion, wythnosol
- Sesiynau rhithiol dan arweiniad tiwtor
- Dysgu mewn grŵp gyda phobl ifanc eraill
- Canolbwyntio ar sgiliau Cymraeg defnyddiol
- Tystysgrif cwblhau - da i'r CV a ffurflenni cais swyddi/astudio pellach
Mae’r cyrsiau yn dechrau o wythnos y 7fed o Hydref.
Diddordeb? Dilynwch y dolenni isod i gofrestru:
Fersiwn y De - dyddiau Mawrth 15:30-16:30
Fersiwn y De - dyddiau Mercher 15:30-16:30
Fersiwn y Gogledd -dyddiau Iau 15:30-16:30