Beth yw'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol?
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Gendlaethol yw'r corff cenedlaethol sy'n arbenigo mewn dysgu a chaffael y Gymraeg, ac sy’n arwain ar y sector Dysgu Cymraeg.
Mae'r Ganolfan wedi creu un llwybr dysgu clir i helpu oedolion i ddod yn siaradwyr Cymraeg, gyda chyrsiau ac adnoddau ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i siaradwyr hyderus.
-
Darparwyr Dysgu CymraegDarllen mwy am ein darparwyr Dysgu Cymraeg
-
Staffio a LlywodraethiantDarllen mwy am staffio a llywodraethiant
-
Cyhoeddi DataDarllen mwy am gyhoeddi data
-
CyhoeddiadauDarllen mwy am ein cyhoeddiadau
-
YmchwilDarllen mwy am ein hymchwii
-
Swyddi a ChyfleoeddDarllen mwy am swyddi a chyfleoedd
Mwy am waith y Ganolfan
Mae'r Ganolfan yn gweithio gyda 10 o ddarparwyr cyrsiau ledled Cymru.
Mae cyrsiau cymunedol ar gael, wyneb yn wyneb ac yn rhithiol, ac mae opsiynau hunan-astudio ar-lein.
Mae cynlluniau eang ar gyfer gweithleoedd, gan gynnwys y sector Iechyd a Gofal a Chwaraeon.
Mae rhaglen dysgu genedlaethol ar gyfer y Gweithlu Addysg, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer pobl ifanc.
Mae pecyn o wasanaethau ar gyfer rhieni a gofalwyr, yn ogystal â cheiswyr lloches a ffoaduriaid.
Cylchlythyr i randdeiliaid
Eisiau derbyn y newyddion diweddaraf gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol?
Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr tymhorol i randdeiliaid, neu darllenwch ein rhifyn diweddaraf.