Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gweithluoedd - Cyrsiau Dan Arweiniad Tiwtor

Pa opsiynau sydd ar gael?

Dysgu Cymraeg Gweithluoedd

Mae cyrsiau blasu Cymraeg yn ogystal â chyrsiau ar gyfer amrywiaeth eang o sectorau ar gael.

Mae mwy o wybodaeth ar gael isod.

Rhowch gynnig ar y Gymraeg

Beth am drefnu cwrs blasu Cymraeg i'ch gweithwyr?

Rydym yn cynnig sesiynau hyblyg rhwng 1 awr a 10 awr, dan arweiniad tiwtor profiadol.

Mae'r cyrsiau'n ffordd hwyliog ac ymarferol o feithrin hyder, dysgu geiriau a brawddegau defnyddiol, a chreu profiad cadarnhaol o ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

I gofrestru eich diddordeb, dewiswch y botwm isod. 

Cymraeg wedi ei deilwra i'ch sector

Mae ein tiwtoriaid sectorol yn arbenigo mewn darparu cyrsiau Cymraeg wedi'u teilwra i anghenion gwahanol feysydd gwaith. Gyda dealltwriaeth o iaith a chyd-destun eich sector, maent yn cynnig profiad dysgu perthnasol, ymarferol ac effeithiol.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys Awdurdodau Lleol; Chwaraeon; Diwylliant; Amgylchedd a Natur; Trosedd, Cyfiawnder a Diogelwch; Y Trydydd Sector, a'r Gwasanaeth Sifil. Cysylltwch i drafod sut y gallwn eich cefnogi i ddatblygu sgiliau Cymraeg sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn yn y gweithle.

I gofrestru eich diddordeb, dewiswch y botwm isod.