Argraffiadau Dr Mair Lenny Turner o’r Gynhadledd IATEFL
Mae’r profiad o gyflwyno mewn cynhadledd ryngwladol am y tro cyntaf yn un sy’n aros yn y cof am gyfnod wedyn. Ar 23 Ebrill ces i a fy nghydweithwraig, Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y cyfle i gyflwyno yng nghynhadledd IATEFL yn Brighton.
Mae mynychu IATEFL yn brofiad gwerthfawr i unrhyw un sy’n ymddiddori yn y byd dysgu ieithoedd. Mae miloedd o addysgwyr, ymchwilwyr, awduron cyrsiau ac adnoddau, ac ymarferwyr o bob cwr o’r byd yn dod ynghyd i rannu syniadau, herio rhagdybiaethau, ac archwilio dyfodol dysgu ieithoedd.
Dw i wedi bod yn un o gynadleddwyr IATEFL o’r blaen, ond caf fy synnu gydag anferthedd y gynhadledd bob tro - nifer o sesiynau ar amrywiaeth o bynciau yn cael eu cynnal ar yr un pryd, ffair wybodaeth helaeth, sgyrsiau bywiog ym mhob cornel, ac ymdeimlad amlwg o chwilfrydedd a bod yn agored i syniadau.
Roedd y themâu eleni yn adlewyrchu rhai o’r newidiadau a’r datblygiadau mwyaf yn y maes: rôl gynyddol dysgu digidol, pwysigrwydd dylunio cyrsiau cynhwysol sy’n ddysgwr-ganolog, integreiddio offer deallusrwydd artiffisial i’r byd dysgu ieithoedd, a’r cwestiwn oesol o sut i wneud addysgu iaith yn fwy hygyrch ac ystyrlon i oedolion sydd am ddysgu iaith newydd.
Cynhaliwyd nifer o weithdai a sgyrsiau oedd yn canolbwyntio ar dechnegau addysgu a phedagogeg, gan dynnu sylw at sut y gall addysgwyr ddatblygu adnoddau dysgu deniadol sy’n apelio at bobl ifainc, tra’n cefnogi amrywiaeth o arddulliau dysgu.
Ceir cydberthynas amlwg rhwng y themâu hyn a fy ngwaith i, yn y sector Dysgu Cymraeg i oedolion.
Testun ein cyflwyniad oedd ‘Adnoddau Dysgu Cymraeg i oedolion’ - y llyfrau cwrs a’r platfform digidol. Does dim syndod i ni ddechrau ein cyflwyniad gyda sesiwn flasu Gymraeg, a gyda hynny newidiodd yr awyrgylch yn yr ystafell yn syth bin - datblygodd y cyflwyniad i fod yn sgwrs ryngweithiol yn hytrach na pherfformiad. Roedd y cwestiynau a’r adborth gaethon ni yn dangos ôl meddwl ac yn llawn anogaeth. Yr hyn oedd yn galonogol ac yn werth chweil oedd y diddordeb gwirioneddol a fynegwyd yn y Gymraeg o blith cynulleidfa ryngwladol.
Canolbwyntion ni ar elfennau penodol o’n hadnoddau cwrs sydd ar lefelau A1 - B2, ynghyd â’r fethodoleg a’r theorïau pedagogaidd sy’n rhan annatod ohonynt. Fy mhrif gyfraniad oedd rhoi gwibdaith o’r adnoddau digidol. Y rhan fwyaf allweddol o’r drafodaeth honno oedd nad atodiad yn unig yw’r adnoddau digidol ond yn hytrach, rhan allweddol o’r ecosystem ddysgu - yn cefnogi cyfleoedd i ymarfer, cynyddu hygyrchedd, ac yn hwyluso defnydd y dysgwyr o’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth.
Gwnaeth y profiad o gyflwyno yn IATEFL am y tro cyntaf gryfhau’r cysylltiadau gyda athrawon iaith ledled y byd. Er ein bod ni’n gweithio ar draws gwahanol ieithoedd, gwledydd a chyd-destunau, ’dyn ni’n wynebu heriau tebyg iawn i’n gilydd: sut mae mynd ati i lunio adnoddau sydd wir yn cefnogi ein dysgwyr, sut mae defnyddio technoleg yn ystyrlon, a sut mae cynnal diddordeb a momentwm y dysgu dros gyfnod. Roedd rhannu methodoleg a dulliau, a chlywed barn eraill, yn brofiad oedd yn gwreiddio rhywun ac yn chwa o awyr iach.
Gadewais Brighton gyda syniadau a chwestiynau newydd, ac ymdeimlad o falchder. Baswn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried cyflwyno yn IATEFL i fynd amdani a chyflwyno cais – IATEFL - Birmingham 2027 sy nesa!