Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dod i adnabod Nell

Dod i adnabod Nell

Mae Nell Johnson, 22 oed, yn gweithio fel rheolwr bwyty ‘The Shed’ yn Abertawe. Mae’n dysgu Cymraeg am ddim trwy gynllun y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed.

Buon ni’n sgwrsio â Nell er mwyn dysgu mwy amdani a'i thaith gyda'r Gymraeg.

Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddechrau dysgu Cymraeg?

Mae fy mhartner a'i deulu yn siaradwyr Cymraeg, ac mae'r iaith yn bwysig iawn iddyn nhw. Dw i eisiau dysgu er mwyn gallu sgwrsio â nhw yn Gymraeg.

Es i Ysgol Gyfun Bishopston, sy'n ysgol cyfrwng Saesneg. Dysgais i dipyn bach o Gymraeg yn yr ysgol, ond penderfynais gofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg ym mis Medi 2025 er mwyn mynd ati o ddifri i ddysgu a datblygu fy sgiliau a fy hyder yn y Gymraeg.

Sut wyt ti’n dysgu?

Dw i’n dilyn cwrs Mynediad, ac mae'r dosbarth ar-lein bob dydd Mawrth rhwng 10am a 12pm.

Mae'r tiwtor, Kayleigh, a'r gwersi'n wych. Mae gan bawb eu camerâu a'u meicroffonau ymlaen, felly mae’r sesiynau’n rhyngweithiol iawn. Mae cymysgedd da o bobl o wahanol oedrannau. Dw i’n mwynhau'r gwersi'n fawr am eu bod yn rhoi strwythur i fi.

Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg y tu allan i’r dosbarth?

Ydw – mae teulu fy mhartner yn siarad Cymraeg, felly mae’r iaith o fy nghwmpas drwy’r amser. Pan dw i yn eu cwmni, dw i’n ceisio ymarfer ac ymateb yn Gymraeg.

Mae ’na hefyd dipyn o siaradwyr Cymraeg yn y gwaith. Maen nhw'n gwybod fy mod i'n dysgu, felly maen nhw'n aml yn rhoi cyfleoedd i fi ymarfer, sy'n ddefnyddiol iawn.

Dw i wedi bod yn defnyddio Duolingo ers tua blwyddyn a hanner hefyd.

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?

Mae’n hwyl ac mae’r siwrnai’n un ysbrydoledig. Mae ’na ymdeimlad o gymuned yn y dosbarth a dw i wedi gwneud ffrindiau newydd.

Beth yw dy ddiddordebau?

Dw i'n mwynhau dawnsio ac yn ddiweddar, dw i wedi dechrau rhedeg. Rhedais i Hanner Marathon Llanelli a gorffen yn 36ain – canlyniad dw i’n falch iawn ohono.

Beth faset ti’n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried dysgu Cymraeg?

Baswn i’n dweud bod cyrsiau Dysgu Cymraeg yn lle gwych i ddechrau, ac maen nhw am ddim i bobl dan 25 oed. Fy nghyngor i fasai mynd amdani a throchi yn yr iaith gymaint â phosibl.