Ystadegau Dysgu Cymraeg
Mae data'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu rheoli gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae cronfa ddata ganolog yn casglu gwybodaeth gan bob dysgwr wrth iddynt gofrestru i fynychu cwrs. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys manylion am y dysgwr (e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni) a’r cwrs (lefel, lleoliad, dwyster y dysgu).
Mae'r data a gesglir yn wahanol i’r data a gasglwyd ar gyfer y sector yn y gorffennol. Mae’r dull o gasglu’r data hefyd yn wahanol. Yn dilyn rhoi Cynllun Rheoli Data y Ganolfan ar waith, y flwyddyn lawn gyntaf o ddata sydd gan y Ganolfan i’w rhannu yw data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-2018 (1 Awst 2017–31 Gorffennaf 2018). Nid oes felly modd gwneud cymariaethau cywir gyda data cyn 2017/18.
Rydym yn gyhoeddwyr ystadegau swyddogol
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyhoeddwyr ystadegau swyddogol. Wrth gyhoeddi ein data, byddwn yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Awdurdod Ystadegau'r DU (UKSA).
Beth yw'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau?
Mae'r cod yn cyflwyno fframwaith er mwyn sicrhau bod ystadegau yn ddibynadwy, o ansawdd ac yn werthfawr.
Mae'r cod wedi ei seilio ar yr egwyddorion hyn gan osod y gweithdrefnau angenrheidiol er mwyn eu sicrhau.
Trwy gydymffurfio â'r cod, gall defnyddwyr yr ystadegau ymddiried yn y wybodaeth a gynhyrchir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Dibynadwyedd
Ansawdd
Gwerth
Beth fyddwn ni'n ei wneud os bydd y cod wedi ei dorri?
- Byddwn yn hysbysu'r Ystadegydd Cenedlaethol os oes cwynion am safon ein cyhoeddiadau ystadegol.
- Byddwn yn adrodd wrth yr Ystadegydd Cenedlaethol os bydd data yn cael ei ryddhau yn ddamweiniol neu mewn modd anghywir.
- Bydd Y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn ymchwilio i amgylchiadau os bydd yn arwain at dorri'r cod ac yn rhoi gwybod i Awdurdod Ystadegau'r DU (UKSA).
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am yr ystadegau, yna cysylltwch â Swyddfa@dysgucymraeg.cymru.