Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dod i adnabod Simon Whitehead

Dod i adnabod Simon Whitehead

Mae Simon Whitehead yn artist sy’n byw yn Sir Benfro. Bydd yn arddangos ei waith yn ‘Y Lle Celf’ ar faes Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd fis Awst.

Yma, ’dyn ni’n holi Simon am ei ymarfer creadigol a’i siwrnai’n dysgu Cymraeg.

Beth yw eich cefndir?

Ges i fy magu yn Leeds. Mae fy nhad yn Gymro, o Frymbo, ger Wrecsam. Roedd fy mam-gu yn siaradwr Cymraeg ac mae rhai aelodau o'r teulu yn dal i fyw yn yr ardal. Ar ôl cyfnod o weithio ym maes addysg dawns yn Glasgow, symudais i Lundain ac yna i Efrog Newydd i barhau â fy hyfforddiant fel dawnsiwr.

Ers pryd dych chi wedi bod yn dysgu Cymraeg?

Ym 1993 penderfynais adael fy mywyd yn y ddinas a symud i Ben Llŷn a dechreuais ddysgu Cymraeg ar gwrs WLPAN. Ers 1998 dw i wedi byw yn Sir Benfro. Ar ôl cyfnod o beidio â bod ar gwrs ffurfiol, y llynedd ymunais â chwrs yng Nghanolfan Hermon gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro. Dw i’n mwynhau'r cwrs yn fawr ac mae fy hyder wrth siarad yn tyfu, dw i'n siŵr y basai fy mam-gu yn hapus i glywed fy mod i’n dysgu Cymraeg.

Beth yw eich swydd?

Dw i'n gweithio fel artist symudiad, athro a gweithiwr corff. Dw i’n gwneud perfformiadau, dawnsfeydd, teithiau cerdded a recordiadau maes. Dw i'n mwynhau ysgrifennu a chydweithio ag artistiaid eraill, cymunedau ac o fewn y dirwedd.

Dych chi wedi cydweithio â'r afon i greu eich gwaith a fydd yn ‘Y Lle Celf’ eleni. Dwedwch fwy am eich gwaith.

Yn fy ngwaith 'Dulais', dw i wedi datblygu ffyrdd o recordio Afon Dulais gan ddefnyddio fy ngitâr Fender Stratocaster. Mae’r afon Dulais yn agos at fy nghartref, milltir i lawr yr afon o Ffynnon Annwn yng ngogledd Sir Benfro. Mae'r afon yn chwarae'r gitâr gyda mwy o soffistigedigrwydd nag y gallaf ar fy mhen fy hun ac mae ganddi lawer o leisiau. Bydd y recordiadau'n cael eu chwarae trwy gawod sain yn ‘Y Lle Celf’ yn Eisteddfod Garreg Las ym mis Awst. Dewch draw i ‘Y Lle Celf’ a phrofi awyrgylch ddyfrllyd yr Afon Dulais.

Dych chi’n gallu dysgu mwy am Simon a’i waith celf drwy ddilyn y ddolen nesaf: Simon Whitehead