Bydd Maura High yn teithio o North Carolina i’r Rhondda ddiwedd mis Mehefin er mwyn gweld cerflun o’i hen fodryb, Elizabeth Andrews, yn cael ei ddadorchuddio, fel rhan o brosiect Cerfluniau Merched Cymru.
Bydd y cerflun, sydd wedi’i greu gan yr artist Billie Bond, yn cael ei ddadorchuddio ym Mharc Treftadaeth y Rhondda ar 25 Mehefin. Elizabeth Andrews oedd trefnydd benywaidd cyntaf y Blaid Lafur yng Nghymru, a bu’n ymgyrchu i wneud bywyd yn haws i lowyr a’u teuluoedd yn y cymoedd.
Yn ystod yr ymweliad, mae Maura yn awyddus i ymarfer ei Chymraeg. Mae hi’n mynychu dosbarth rhithiol wythnosol gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae Maura hefyd yn gwylio S4C, gwrando ar bodlediadau, ac yn defnyddio grwpiau Facebook Cymraeg i wella ei sgiliau iaith.
Dywedodd Maura: "Dechreuais ddysgu Cymraeg yn ystod y pandemig er mwyn teimlo’n nes at fy nheulu. Mae wedi fy helpu i ddeall cefndir fy hen fodryb Elizabeth yn well, a’r math o fywyd roedd hi’n byw. Bydd cael cyfle i siarad Cymraeg yng Nghymru o’r diwedd yn deimlad arbennig iawn.’’
Er i Maura gael ei geni yn y Rhondda, treuliodd ei phlentyndod ym Malaysia, Jamaica a Phacistan oherwydd gyrfa filwrol ei thad. Yn dilyn marwolaeth ei thad, daeth yn ôl i Gymru yn ddeg oed a mynychu Ysgol Breswyl Merched Trefynwy, lle dechreuodd ei mam weithio gyda thîm arlwyo’r ysgol.
Yn ystod gwyliau’r ysgol, roedd hi’n byw gyda’i mam-gu yn y Gurnos ym Merthyr Tudful, lle mae dau o’i chefndryd yn dal i fyw heddiw. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Bryste a dysgu yn Nigeria, symudodd Maura i’r Unol Daleithiau, lle mae hi wedi gweithio fel athrawes, cyfieithydd, bardd a golygydd.
Bydd Maura yng Nghymru am wyth diwrnod ac yn teithio gyda’i merch a’i hwyres, sy’n fyfyrwraig yn Efrog Newydd. Mae Maura yn edrych ymlaen at y daith, ac at ddychwelyd i’w gwreiddiau yn ne Cymru, fel yr eglura:
"Dw i methu aros i weld y cerflun yn y Rhondda. Dw i wedi teithio llawer dros y blynyddoedd, ond mae fy nghalon dal yn y Cymoedd. Bydd sefyll yno gyda fy merch a’m hwyres yn brofiad emosiynol iawn dw i’n siŵr."
Llun: Maura yn y 1960au.