Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Chiara Sirianni

Holi Chiara Sirianni

Yn ddiweddar, mae gweithwyr Iechyd a Gofal wedi dilyn cwrs arbennig yn Nant Gwrtheyrn wedi’i ddatblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn cefnogi ‘Mwy na Geiriau’, strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Un o’r criw aeth ar y cwrs oedd Chiara Sirianni. Dyma ychydig o’i hanes a’i phrofiadau yn y Nant.

Dwed ychydig amdanat ti...

Chiara dw i. Dw i’n dod o’r Eidal. Dw i’n byw yn Ninbych rŵan. Dw i’n gweithio fel Llawfeddyg y Fron yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Pam dysgu Cymraeg?

Dw i’n caru diwylliant Cymru, a dw i’n hoffi siarad Cymraeg. Pan symudais i Gymru, ro’n i’n teimlo’n gartrefol. Dw i’n credu eich bod chi’n deall y diwylliant, y bobl, a’r ffordd maen nhw’n gweld y byd yn well pan dach chi’n siarad yr iaith.

Dw i’n siarad Eidaleg a Ffrangeg. Mae fy mab yn ddwyieithog hefyd, ac yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol.

Sut brofiad oedd dilyn y cwrs yn Nant Gwrtheyrn?

Mae’r profiad wedi bod yn anhygoel. Roedd yn gyfle i fi drochi yn yr iaith, a dysgu am ddiwylliant a hanes.

Mae’r cwrs wedi’i strwythuro’n dda ac roedden ni’n dysgu drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, oedd wedi gwneud y profiad yn werthfawr.

Des i ar y cwrs gyda chydweithiwr, ac mae wedi bod yn braf dysgu rhywbeth newydd gyda’n gilydd. Dw i’n teimlo’n ddiolchgar iawn fy mod i wedi cael y cyfle i ddod ar y cwrs.

Sut byddi di’n defnyddio dy sgiliau Cymraeg yn y gwaith?

Dw i’n gobeithio defnyddio brawddegau a chyfarchion byr i ddechrau. Dw i wedi ysgrifennu rhestr o frawddegau yn fy llyfr nodiadau y bydda i’n eu defnyddio yn y gwaith. Dw i’n gobeithio y bydd defnyddio brawddegau byr yn gyson yn fy helpu i ddatblygu fy Nghymraeg.

Bydd siarad Cymraeg â fy nghleifion yn fy helpu i ddysgu. Dach chi’n gallu gweld bod cyfathrebu â chleifion yn y Gymraeg yn eu helpu i deimlo’n fwy cartrefol. Bydda i’n adeiladu ar yr hyn dw i wedi’i ddysgu yn y Nant.

Mae rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau blasu ar gyfer y sector Iechyd a Gofal ar gael isod:
Cyrsiau Blasu | Dysgu Cymraeg