Holi Ffion Dafis
Yma, ’dyn ni’n holi Ffion Dafis, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws. Mae Ffion yn wyneb adnabyddus, sydd wedi actio a chyflwyno ar y teledu, radio a llwyfannau theatr ledled Cymru. Mae hefyd yn awdur, ac mae newydd ei phenodi i'w rôl gyda Theatr Bara Caws.
Fis Mai, bydd Ffion yn cynnal gweithdai i ddysgwyr ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn y gweithdai, bydd hi’n dangos i ddysgwyr sut i ysgrifennu deialog a chreu cymeriadau diddorol ar gyfer y llwyfan theatrig.
Diolch Ffion am y sgwrs, a phob lwc gyda’r gweithdai!
Beth wnaeth dy ysbrydoli i gynnal y gweithdai yma?
Mae dysgwyr yn gwneud ymdrech fawr i ddysgu’r iaith. Felly mae’n wych gallu cyfrannu at eu datblygiad creadigol gan gynnig sgiliau ychwanegol iddyn nhw.
Beth gall dysgwyr ei ddisgwyl o’r gweithdai?
Bydd y sesiynau yn canolbwyntio ar dechneg theatr a chreu cymeriadau realistig. Dw i’n gobeithio y bydd y dysgwyr yn mwynhau creu mewn awyrgylch agored a chefnogol, ac yn dysgu mwy am ysgrifennu ar gyfer y theatr.
Pa gyngor byddet ti’n ei roi i rywun sy’n dysgu Cymraeg ond sydd eisiau ysgrifennu drama neu olygfa fer?
Darllen dramâu Cymraeg.
Actio, cyflwyno neu ysgrifennu – pa un yw’r ffefryn a pham?
Alla i wir ddim dewis. Mae’r elfennau yma i gyd yn cyfrannu at bwy ydw i.
Beth ydy dy obeithion ar gyfer y rôl newydd hon gyda Theatr Bara Caws?
Creu rhaglen ddeinamig sy’n gwneud i bobl feddwl a gwenu, heb anghofio adrodd straeon Cymreig am fywyd heddiw.
Pam wnaeth y swydd apelio atat?
Roedd hi’r amser cywir i ddefnyddio’r sgiliau dw i wedi eu casglu dros y degawdau, a’u sianelu mewn i un lle.
Sut wyt ti’n bwriadu cynnwys mwy o ddysgwyr Cymraeg yn y theatr?
Dw i’n edrych ymlaen at siarad efo’r criw yn y gweithdai, a gweld sut y galla i drio gwneud y theatr yn lle cynhwysol i ddysgwyr ar bob lefel.