Holi Graham
Yn wreiddiol o Surrey, symudodd Graham Boswell i Gymru ym 1985. Erbyn hyn, mae’n byw yn Aberystwyth ac yn gweithio fel Ymgynghorydd Meddygol yn Ysbyty Bronglais.
Mae’n dilyn cwrs gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Buon ni’n holi Graham am ei daith iaith...
Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddechrau dysgu Cymraeg?
Ro’n i eisiau siarad Cymraeg â fy nghleifion a fy wyrion.
Sut wyt ti’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd?
Dw i wedi cofrestru ar gwrs lefel Canolradd. Mae’r cwrs ar-lein ddwy noson yr wythnos. Dw i hefyd yn cael cefnogaeth codi hyder yn y gwaith, gyda thiwtor personol, sy’n ddefnyddiol iawn. Dw i’n gwylio rhaglenni ar S4C ac yn gwrando ar Radio Cymru.
Pam wyt ti’n credu ei bod yn bwysig cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg?
Dw i’n defnyddio Cymraeg yn y gwaith bob dydd. ’Dyn ni eisiau darparu’r gwasanaeth gorau i’n cleifion, a phan maen nhw’n sâl, dw i’n gweld bod cyfathrebu â nhw yn eu hiaith gyntaf yn eu helpu i ymlacio a deall yn well. Yn aml, mae cleifion yn gwerthfawrogi fy ymdrechion i ddefnyddio’r Gymraeg.
Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg y tu allan i’r dosbarth?
Ydw, dw i’n siarad gyda fy wyrion, ffrindiau ac weithiau dw i’n mynd i gaffi Cletwr i gwrdd â grŵp ar gyfer ‘Paned a Sgwrs’.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?
Dw i’n mwynhau’r cyfle i ddysgu iaith y galla i ei defnyddio bob dydd. Mae’n braf cwrdd â phobl o Gymru a gwledydd eraill sy’n dysgu Cymraeg hefyd.
Beth faset ti’n dweud wrth rywun sy'n ystyried dysgu Cymraeg?
Ewch amdani. Mae’n wych gweld gwên ar wynebau cleifion pan fyddwch chi’n siarad Cymraeg â nhw.