Holi Hannah
Mae Hannah Russell yn dod o bentref bach ger Y Fenni, ond bellach yn byw yn Birmingham.
Dechreuodd Hannah ddysgu Cymraeg y llynedd gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac erbyn hyn mae hi’n defnyddio’r iaith bob dydd, a chymerodd ran yng nghystadleuaeth Medal Bobi Jones Eisteddfod yr Urdd eleni.
Yma, ’dyn ni’n holi Hannah am ei thaith i ddysgu Cymraeg…
Ble wyt ti’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n dysgu Cymraeg ar-lein bob wythnos, ond bues i yn Aberystwyth am fis ar y cwrs Dysgu Cymraeg dwys. Dw i’n defnyddio SaySomethinginWelsh hefyd, a dw i’n gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg i ddysgu ymadroddion a geiriau newydd.
Beth ydi’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Cwrdd â phobl wahanol a bod yn rhan o’r gymuned Gymraeg.
Sut wyt ti’n ymarfer dy Gymraeg y tu allan i’r dosbarth?
Dw i’n aelod o’r Cynllun Siarad ac yn cyfarfod rhywun bob wythnos i ymarfer siarad Cymraeg, a dw i’n mynd i fore coffi bob dydd Sadwrn. Hefyd, dw i’n mwynhau darllen am hanes Cymru yn Gymraeg.
Beth yw dy nod gyda’r Gymraeg yn y dyfodol?
Un diwrnod, dw i’n gobeithio gwneud doethuriaeth, o bosib trwy gyfrwng y Gymraeg. Dw i hefyd eisiau byw mewn cymuned lle mae’r bobl yn siarad Cymraeg bob dydd.
Sut brofiad oedd cymryd rhan yng nghystadleuaeth Medal Bobi Jones, Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn?
Roedd o’n brofiad anhygoel. Roedd yn hyfryd cwrdd â’r cystadleuwyr eraill a chlywed sut a pham maen nhw wedi dysgu Cymraeg.
Wyt ti’n defnyddio’r Gymraeg yn Birmingham?
Ydw, achos dw i’n mynd i ddigwyddiadau fel boreau coffi gyda’r grŵp ‘Birmingham Welsh’.
Oes gen ti gyngor i ddysgwyr sydd eisiau dysgu Cymraeg?
Siarad, wrth gwrs! Peidiwch â phoeni os dych chi’n gwneud camgymeriadau, bydd pawb yn deall beth dych chi eisiau dweud. Dim ots os na dych chi’n gwybod y gair Cymraeg, defnyddiwch y Gymraeg sydd gennych chi!