Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Julie

Holi Julie

Julie Richards yw Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) yng Nghymru. Cafodd ei magu yn Nhrefaldwyn ac mae bellach yn byw yn Llandrindod.

Mewn seremoni wobrwyo wedi’i chynnal gan Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys, Sir Gâr – un o ddarparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – ar faes Eisteddfod y Garreg Las, derbyniodd Julie wobr ‘Dysgwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2025/2026’.

Yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, cafodd partneriaeth newydd ei lansio rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Choleg Brenhinol y Bydwragedd. Bydd y bartneriaeth yn galluogi bydwragedd ledled Cymru i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, er mwyn cefnogi menywod a’u teuluoedd sy'n derbyn gofal.

Buon ni’n holi Julie am ei thaith iaith...

Pam penderfynu dysgu Cymraeg?

Dw i wedi bod yn gweithio yn y GIG ers dros 35 mlynedd, ac yn fy rôl yn yr RCM, dw i’n cynrychioli lleisiau bydwragedd a gweithwyr cymorth mamolaeth ar draws Cymru. Dw i’n hyrwyddo cyfraniad bydwragedd at ofal diogel o ansawdd uchel, sy’n allweddol ar gyfer iechyd pobl Cymru yn y dyfodol.  

Ro’n i eisiau cryfhau lleisiau ein haelodau sy’n siarad Cymraeg, a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gofal mamolaeth personol i fenywod a’u teuluoedd, gan gynnwys cynnig gwasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol yn y Gymraeg. Wrth rannu fy nhaith iaith i, dw i’n gobeithio y bydda i’n ysbrydoli eraill i fynd ati i ddysgu Cymraeg.

Ble dych chi’n dysgu Cymraeg?

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Dechreuais i drwy ddilyn modiwlau am ddim gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yna, cofrestrais ar gwrs Sylfaen am 12 wythnos oedd yn gyfle i fi ymarfer yn wythnosol. Dw i hefyd wedi bod ar sesiynau Codi Hyder un i un, sydd wedi bod yn ddefnyddiol ac yn ymarferol iawn. Mae’r sesiynau wedi fy nghaniatáu i i ddefnyddio fy Nghymraeg wrth roi cyflwyniadau mewn cynadleddau a chyfarfodydd.

Sut dych chi’n ymarfer siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth?

Dw i’n ceisio defnyddio fy Nghymraeg bob dydd, mewn cyfarfodydd neu ar leoliad clinigol. Dw i’n trio darllen cymaint o Gymraeg ag y galla i ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn dysgu ymadroddion bob dydd. Dw i hefyd wedi manteisio ar gyfleoedd yn fy nghymuned i ymarfer sgwrsio, gan gynnwys gyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc ac yn Sioe Frenhinol Cymru.

Llongyfarchiadau ar ennill gwobr ‘Dysgwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol’. Sut deimlad oedd derbyn y wobr hon yn yr Eisteddfod Genedlaethol?

Roedd treulio amser yn yr Eisteddfod yn arbennig, gan fod yr RCM yn lansio partneriaeth newydd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan ddatblygu adnoddau wedi'u teilwra ar gyfer bydwragedd i'w helpu i ddysgu geiriau ac ymadroddion sylfaenol ond pwysig i'w defnyddio yn y gwaith.

Roedd derbyn y wobr yn teimlo fel pe bai dwy flynedd o waith caled wedi talu ar ei ganfed. Roedd yn arbennig rhannu'r digwyddiad gyda TUC Cymru, sydd wedi bod mor gefnogol wrth hyrwyddo pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle.

Beth sydd nesaf i chi gyda’r Gymraeg?

Parhau i ddefnyddio fy Nghymraeg yn nigwyddiadau allweddol yr RCM a magu fy hyder i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ymwneud â digwyddiadau swyddogol gyda’r gwaith. Hoffwn hefyd weld aelodau'r RCM yn manteisio ar yr adnoddau Dysgu Cymraeg sydd wedi'u datblygu ar eu cyfer. Ers i fi rannu fy mod i’n dysgu Cymraeg, mae cymaint o bobl wedi gofyn sut a ble gallan nhw ddechrau dysgu Cymraeg hefyd.

Unrhyw gyngor i eraill sy’n ystyried dechrau dysgu Cymraeg?

Manteisiwch ar y gefnogaeth gan Dysgu Cymraeg, defnyddiwch y modiwlau dysgu sydd ar gael a chwiliwch am unrhyw gyfle i fagu eich hyder.