Holi Katarina
Mae Katarina Roberts yn dod o Slofacia, ond mae bellach yn byw yn Rhydypennau ger Aberystwyth.
Mae’n dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr, sy’n darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mi wnaeth Katarina ennill gwobr ‘Dysgwr Prosiect Cymraeg yn y Cartref’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Yma, ’dyn ni’n holi Katarina am ei thaith i ddysgu Cymraeg…
Ble dych chi’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n dysgu Cymraeg yn Aberystwyth. Dw i’n mynd i ddosbarth wyneb yn wyneb dair gwaith yr wythnos. Eleni, mi wnes i basio’r arholiad lefel Mynediad.
Pam penderfynu dysgu Cymraeg?
Mi wnes i ddweud wrth fy ngŵr fy mod am ddysgu Cymraeg, ar ôl symud i Gymru.
Pa mor bwysig ydy gallu defnyddio’r iaith gartref gyda’r plant?
Dw i eisiau dangos i fy mhlant bod dysgu pethau newydd yn gallu bod yn werth chweil, a dw i eisiau eu helpu gyda’u gwaith cartref. Dw i’n ymarfer siarad Cymraeg gyda’r plant, pan dw i’n siopa neu gyda ffrindiau yn ystod gemau rygbi’r plant.
Sut deimlad oedd derbyn y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol?
Roedd fel breuddwyd, a dw i mor falch o fod wedi derbyn y wobr.
Beth ydy eich nod gyda’r Gymraeg yn y dyfodol?
Dw i eisiau parhau i ddysgu Cymraeg a phasio’r arholiad nesaf. Mae siarad Cymraeg o fantais wrth geisio am swyddi yn yr ardal hon. Dw i eisiau astudio i fod yn fydwraig, a defnyddio’r Gymraeg wrth weithio yn y gymuned leol.
Unrhyw gyngor i eraill sy’n ystyried dechrau dysgu Cymraeg?
Dych chi’n gallu llwyddo, felly ewch amdani. Cofiwch ofyn am gymorth gan eraill – mae fy nheulu a Rhiannon Taylor, fy nhiwtor, wedi bod yn gefnogol iawn.