Holi Liam
Daw Liam Williams yn wreiddiol o Landrindod, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio fel Uwch Ymarferwr Iechyd y Cyhoedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae Liam wedi bod yn dysgu Cymraeg, ac yn ddiweddar, mae wedi bod yn dilyn sesiynau Codi Hyder wedi’u trefnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Buon ni’n holi Liam am ei waith a’i daith iaith...
Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddechrau dysgu Cymraeg?
Es i ddim i ysgol Gymraeg, ac ar ôl blwyddyn 11, anghofiais i’r ychydig o Gymraeg oedd gen i. Ro’n i wedi derbyn negeseuon e-bost yn y gwaith am wersi Cymraeg a chymorth am ddim, ac felly un diwrnod, penderfynais fynd amdani a dechrau dysgu.
Ers dechrau dysgu Cymraeg, dw i wedi dod i werthfawrogi pa mor arbennig yw’r iaith a pha mor bwysig yw hi i fi ei defnyddio a’i chadw’n fyw.
Sut wyt ti’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd?
Yn bennaf drwy sesiynau ‘paned a sgwrs’, yn ogystal â Duolingo a SaySomethinginWelsh. Dw i hefyd yn gwrando ar Radio Cymru a gwylio cymaint o S4C ag y galla i.
Beth yw dy rôl?
Dw i’n gweithio fel Uwch Ymarferwr Iechyd y Cyhoedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae Iechyd y Cyhoedd yn ymwneud ag atal pobl rhag mynd yn sâl, felly dw i’n gweithio â phartneriaid eraill ar draws y byrddau iechyd i wella iechyd y boblogaeth drwy fentrau a chynlluniau amrywiol.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?
Mae’r teimlad o allu deall a chyfathrebu mewn iaith wahanol, a’i defnyddio bob dydd, yn gyffrous ac yn werth chweil.
Beth faset ti’n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried dysgu Cymraeg?
Fel siaradwyr Saesneg, dw i’n teimlo ein bod ni’n ansicr am siarad mwy nag un iaith. Mae siarad mwy nag un iaith yn hollol naturiol mewn sawl rhan o’r byd. Does dim angen i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg i gael sgyrsiau.
Does dim angen i ddysgu Cymraeg gymryd llawer o’ch amser – mae dysgu ychydig bach ar y tro ac mor aml â phosib wedi hwyluso’r broses i fi ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill.
Yr hyn sydd wedi bod yn fuddiol iawn i fi yw siarad Cymraeg gymaint â phosib. Er ei fod yn gallu teimlo’n lletchwith i ddechrau, siarad a deall Cymraeg llafar yw’r hyn mae’r rhan fwyaf o bobl ei eisiau, ac mae cael y cyfle i ymarfer wedi fy helpu i siarad yn fwy hyderus.