Holi Mei-Ju Hwang
Yn ddiweddar, mae gweithwyr Iechyd a Gofal wedi dilyn cwrs arbennig yn Nant Gwrtheyrn wedi’i ddatblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn cefnogi ‘Mwy na Geiriau’, strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Un o’r rhai aeth ar y cwrs oedd Mei-Ju Hwang, sy’n gweithio yn Ysbyty Gwynedd.
Dyma ychydig o hanes Mei-Ju a’i phrofiadau’n dysgu Cymraeg.
Dwed ychydig amdanat ti...
Mei-Ju dw i. Dw i’n dŵad o Taiwan. Rŵan, dw i’n byw yn Ynys Môn. Dw i’n gweithio fel Ymgynghorydd Llawfeddygol y Fron yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Pam dysgu Cymraeg?
Dw i’n dysgu Cymraeg achos dw i isio siarad Cymraeg efo fy nghleifion a fy ffrindiau newydd ym Mangor. Mae’r Gymraeg yn iaith ddiddorol, a dw i’n mwynhau ei siarad bob dydd.
Sut brofiad oedd dilyn y cwrs yn Nant Gwrtheyrn?
Ar ôl wythnos yn y Nant, dw i wedi magu hyder. Mae’n lle diogel iawn i siarad Cymraeg efo ffrindiau newydd, ac efo fy athrawes, Lisa. Mae wedi bod yn brofiad bendigedig.
Mae’n bwysig iawn i fi barchu’r diwylliant, yr iaith, a'r wlad dw i’n byw ynddi. Mae wedi bod yn brofiad arbennig iawn i fi.
Mae’r staff yn angerddol iawn a dan ni wedi bod yn dysgu am hanes y lle a’r iaith Gymraeg. Mae pawb mor gyfeillgar a dan ni’n cael hwyl wrth ddysgu. Dw i wedi cael y profiad gorau.
Sut byddi di’n defnyddio dy sgiliau Cymraeg yn y gwaith?
Dw i bob amser yn dweud wrth fy nghleifion a’r nyrsys am beidio rhoi’r gorau i siarad Cymraeg o fy achos i. Mae gwrando arnyn nhw’n sgwrsio yn fy helpu i ddysgu a deall yn well.
I fi, mae gallu creu perthynas dda efo fy nghleifion yn hollbwysig. Bydd gallu siarad Cymraeg â nhw yn brofiad anhygoel.
Mae rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau blasu ar gyfer y sector Iechyd a Gofal ar gael isod:
Cyrsiau Blasu | Dysgu Cymraeg