Holi Rachel
Cafodd Rachel ei geni yn Aberdâr, ac mae’n gweithio fel Ysgrifennydd Preifat i Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae’n dysgu Cymraeg ar gynlluniau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer gweithluoedd, er mwyn ei helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith ac yn ei bywyd bob dydd.
Yma, ’dyn ni’n holi Rachel am ei thaith i ddysgu Cymraeg…
Ble wyt ti’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n dilyn cwrs Dysgu Cymraeg yn y gweithle, sef cwrs codi hyder. Dw i’n cyfarfod fy nhiwtor, Esther Thomas, bob wythnos ac yn cael sesiynau un-i-un gyda hi.
Dweud ychydig wrthym am y sesiynau gyda Esther.
Mae’r sesiynau gyda Esther yn wych, ac yn rhoi llawer o hwb i fy hyder. Maen nhw’n teimlo fel fy mod i’n sgwrsio â ffrind bob wythnos.
Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Heb os, y teimlad o falchder pan dych chi'n gallu sgwrsio ag eraill sy'n siarad Cymraeg.
Sut wyt ti’n ymarfer dy Gymraeg y tu allan i’r dosbarth?
Dw i’n ymarfer â phobl sy’n siarad Cymraeg yn y swyddfa, a dw i’n siarad Cymraeg gyda fy merch.
Beth yw dy nod gyda’r Gymraeg yn y dyfodol?
Parhau i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd a meithrin hyder wrth ddefnyddio’r iaith yn y gweithle.
Unrhyw gyngor i eraill sy’n ystyried dechrau dysgu Cymraeg?
Dechreuwch ddysgu cyn gynted â phosibl, oherwydd mae'n werth chweil!