Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Rebecca 

Holi Rebecca 

Mae Rebecca Crowther yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd, ar gyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Erbyn hyn, mae’n defnyddio’r Gymraeg yn ei gwaith o ddydd i ddydd yn ei rôl fel cynorthwyydd gofal iechyd yn ysbytai cymunedol y Rhyl a Bae Colwyn. 

Yma, ’dyn ni’n holi Rebecca am ei thaith i ddysgu’r iaith… 

Ble wyt ti’n byw? 

Dw i’n byw ym Mhrestatyn efo fy mhartner a fy mhlant.  Ges i fy ngeni yn Chesterfield, Derbyshire, ond ges i fy magu ym Mhrestatyn.  

Pam dysgu Cymraeg?  

Ro’n i eisiau magu fy mhlant yn ddwyieithog, er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd iddyn nhw yng Nghymru.  Hefyd, gwnes i sylweddoli pa mor bwysig ydy’r iaith o fewn y gwasanaeth iechyd.  

Sut wyt ti’n dysgu Cymraeg?  

Dw i’n dysgu mewn dosbarth ar-lein bob wythnos gyda thiwtor yn y gwaith.  Hefyd, es i ar gwrs i Nant Gwrtheyrn y llynedd, a dw i’n mynd eto eleni.  

Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg yn y gwaith?  

Ydw, dw i’n ateb y ffôn yn ddwyieithog bob amser.  Hefyd, dw i’n gwneud yn siŵr bod adnoddau fel posteri yn ddwyieithog.  

Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg y tu allan i’r dosbarth?  

Ydw, dw i’n gwrando ar Radio Cymru, gwylio S4C, ac yn helpu fy mhlant gyda’u gwaith cartref.  Dw i hefyd yn mynd i Bingo Cymraeg, yr Eisteddfod ac i’r theatr.   

Pam bod cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg yn bwysig?  

Mae siarad Cymraeg yn helpu pobl i deimlo’n gyfforddus.  Mae pobl yn gallu teimlo’n nerfus mewn apwyntiadau meddygol, felly mae siarad Cymraeg yn fodd o’u tawelu.  

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?  

Gwneud ffrindiau newydd a darganfod cerddoriaeth Gymraeg. 

Beth faset ti’n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried dysgu Cymraeg?  

Rhowch gynnig arni!  Mae pob gair bach yn helpu.