Mae ysgol gynradd ym Mhenarth yn torri tir newydd wrth gymryd rhan mewn hyfforddiant iaith sydd wedi ei deilwra i bob aelod o staff, gyda’r nod o drawsnewid y defnydd o’r Gymraeg ar draws yr ysgol.
Mae Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff wedi manteisio ar arbenigedd tiwtor Gweithlu Addysg Caerdydd, sy'n rhan o raglen genedlaethol Gweithlu Addysg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol —fel un o bump o ysgolion sy’n cymryd rhan yn y cynllun arloesol hwn.
Mae staff yr ysgol yn mynychu amrywiaeth o gyrsiau Dysgu Cymraeg, gan gynnwys cwrs datblygu 120 awr, cyrsiau byrion, cwrs Cymraeg Bob Dydd, heb anghofio tri aelod o staff sydd wedi sicrhau lle ar y cwrs dwys dau dymor, dros y tair blynedd diwethaf.
Dywedodd y Pennaeth, Laura Taylor, wnaeth gwblhau’r cwrs Cymraeg Bob Dydd:
Mae datblygu sgiliau Cymraeg y staff yn flaenoriaeth wrth i ni weithio tuag at fod yn ysgol Gatholig ddwyieithog. Mae ein staff yn dysgu Cymraeg sy’n berthnasol i’w defnyddio gyda’r plant, a ’dyn ni erbyn hyn yn gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n helaeth drwy’r ysgol gyfan.
Mae’r effaith yn yr ystafell ddosbarth yn amlwg. Mae athrawon yn teimlo’n fwy hyderus i ddefnyddio eu Cymraeg gyda chydweithwyr a disgyblion, tra bod staff cynorthwyol yn defnyddio’r iaith yn naturiol yn ystod amser chwarae.
Dywedodd Lisa Austin, athrawes dosbarth Derbyn, wnaeth gwblhau’r cwrs 120 awr:
Mae’r hyfforddiant wedi rhoi hwb i fy hyder. Mae wedi fy ngalluogi i helpu’r plant i symud ymlaen yn fwy effeithiol drwy ein continwwm iaith Gymraeg.
Mae 187 o ddisgyblion yr ysgol yn mwynhau sesiynau Cymraeg dyddiol sy’n cynnwys gemau, canu, a dysgu TG. Mae Criw Cymraeg yr ysgol hefyd yn chwarae rhan allweddol, gan arwain gemau buarth yn Gymraeg i annog y plant iau i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth.
Mae teuluoedd yn cael eu hannog i fod yn rhan o’r daith hefyd. Bob dydd Gwener, mae’r ysgol yn cynnal dathliad arbennig er mwyn i rieni wylio eu plant yn perfformio yn Gymraeg, a gweld gwobrau ‘Siaradwr yr Wythnos’ a ‘Seren yr Wythnos’ yn cael eu cyflwyno.
Dywedodd Angharad Price, rhiant yn yr ysgol:
Fel rhiant a llywodraethwr, mae wedi bod yn hyfryd gweld y datblygiad yma gyda’r Gymraeg. Mae dathliadau dydd Gwener yn uchafbwynt go iawn — mae clywed y plant yn canu yn Gymraeg a’u gweld yn mwynhau ennill gwobrau am eu hymdrechion yn dangos faint mae’r iaith bellach yn rhan o fywyd bob dydd yr ysgol.
Alys, Erin, Lina, Mila-Blu a Seren yn chwarae gemau buarth yn Gymraeg ar dir Ysgol Sant Joseff ym Mhenarth.
I ddysgu mwy am yr hyn sydd ar gael ar gyfer y gweithlu addysg, dilynwch y ddolen nesaf: