Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Jackie Willmington o Bow Street sy’n derbyn Tlws Coffa Aled Roberts 2026

Jackie Willmington o Bow Street sy’n derbyn Tlws Coffa Aled Roberts 2026

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi ar faes Eisteddfod y Garreg Las mai Jackie Willmington o Bow Street sy’n derbyn Tlws Coffa Aled Roberts.

Mae’r tlws yn cael ei gyflwyno’n flynyddol gan y Ganolfan er cof am Aled Roberts, y gwleidydd a chyn Gomisiynydd y Gymraeg, i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg.

Dysgodd Jackie y Gymraeg ei hun, cyn defnyddio’r iaith yn ei gwaith bob dydd fel milfeddyg yn y Ganolfan Ymchwil Milfeddygol yn Aberystwyth.  Dros y blynyddoedd, mae hi wedi cefnogi eraill ar eu taith i ddysgu’r iaith trwy drefnu gweithgareddau cymdeithasol o bob math gan gynnwys teithiau cerdded, clybiau darllen a chyrsiau haf. 

Mae Jackie yn gefnogwr brwd o gynllun ‘Siarad’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg, ac yn chwarae rhan allweddol yng Nghlwb CYD Aberystwyth, Cymdeithas Edward Llwyd a Chymdeithas y Penrhyn, gan helpu i greu cyfleoedd cyson i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol. 

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;

“Mae Jackie yn enghraifft ysbrydoledig o rywun sydd wedi meistroli’r Gymraeg ac sy’n defnyddio’r iaith honno i gyfoethogi ei chymuned ac i helpu pobl eraill i fagu hyder.

‘‘Mae wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol arbennig i’r sector Dysgu Cymraeg ac i’r gymuned Gymraeg yn ardal Aberystwyth. 

“Mae gwaith gwirfoddolwyr fel Jackie yn allweddol i’r sector Dysgu Cymraeg, ac mae’n haeddu’r gydnabyddiaeth hon yn fawr iawn.  Llongyfarchiadau mawr iddi.”

Llun: Llinos Roberts, gweddw Aled Roberts gyda Jackie Willmington.