Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Lleisiau lleol Eisteddfod y Garreg Las: Holi Anne May

Lleisiau lleol Eisteddfod y Garreg Las: Holi Anne May

Gyda Eisteddfod y Garreg Las ar y gorwel, buon ni’n holi rhai o drigolion Sir Benfro am yr ardal.

Penderfynodd Anne ailafael yn y Gymraeg 15 mlynedd yn ôl pan symudodd i fyw i Sir Benfro. Mae bellach wedi ymgartrefu yn yr ardal, ac wrth ei bodd yn ysgrifennu’n greadigol, gan gyfrannu erthyglau at bapurau bro a chymryd rhan mewn clybiau darllen.

Buon ni’n ei holi am yr Eisteddfod a’r ardal leol...

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Dw i wrth fy modd yn darllen nofelau Cymraeg, ond rhaid i mi gyfaddef nid ar chwarae bach mae darllen nofel mewn ail iaith. Sawl blwyddyn yn ôl, prynais i nifer o lyfrau ar gyfer pobl ifanc. Byddwn i'n tanlinellu pob gair anghyfarwydd gyda phensil, chwilio yn y geiriadur ac yn sgriblan ystyr y gair yn yr ymylon. Wrth i mi orffen pob tudalen, byddwn i’n ail-ddarllen y fersiwn gyda sgribls tan i bopeth lifo. Roedd y broses yn araf iawn, ond yn sgil y profiad hwn, mae fy ngeirfa Gymraeg yn gyfoethog iawn. Dyfal donc a dyrr y garreg!

Mae’r gyfres ‘Amdani’ yn berffaith ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg gyda naratif cyfoes, a'r eirfa ar waelod pob tudalen yn ei gwneud yn hawdd ei darllen.

Ble mae eich hoff le yn Sir Benfro?

Un cilometr i’r gorllewin o Benrhyn Tyddewi mae Ynys Dewi. Cafodd yr ynys ei henwi ar ôl ein nawddsant Dewi fu’n byw yn y chweched ganrif. Amser maith yn ôl, roedd Ynys Dewi yn safle pererindod pwysig. Ar hyd y blynyddoedd, mae’r gwynt a’r tonnau wedi creu ogofâu dwfn o gwmpas yr ynys. Yn yr ogofâu hyn, mae dros 500 o forloi bach yn cael eu geni bob blwyddyn rhwng mis Medi a mis Rhagfyr.

Mae nifer o ynysoedd adnabyddus eraill yn Sir Benfro, sef Ynys Sgomer, sy’n enwog am ei phalod, ac Ynys Gwales, am ei mulfrain gwynion (white cormorants) a'i chysylltiad â'r Mabinogi. Ond heb os nac oni bai, Ynys Dewi yw fy hoff un! Yn 1992 ces i’r faint o weithio ar Ynys Dewi am flwyddyn yn gweithio fel rhan o dîm ymchwil yn astudio morloi llwyd yr Iwerydd. Roedd yn brofiad bythgofiadwy.

Beth yw eich cyngor i ddysgwyr sy’n ymweld â maes yr Eisteddfod?

Mae ymweld â maes yr Eisteddfod fel bod mewn siop losin – mae rhywbeth at ddant pawb: celf, drama, llenyddiaeth, cerddoriaeth, arddangosfeydd a stondinau. Er bod Maes D yn lle penodol ar gyfer dysgwyr, peidiwch fod ag ofn crwydro'r maes. Mae llwyth o fanylion ar gael ar wefan yr Eisteddfod: Amdanom ni | Eisteddfod.

Os nad dych chi'n teimlo'n hyderus, cofiwch y bydd offer cyfieithu ar gael ar y maes sydd yn rhad ac am ddim.

Hoffech chi wirfoddoli? Mae pob gwirfoddolwr yn cael tocyn am ddim i'r maes ar y diwrnod(au) maen nhw’n gwirfoddoli.

Beth yw eich hoff air neu eiriau tafodieithol sy’n perthyn i ardal Sir Benfro?

Danto (wedi cael llond bol)
Jengyd (dianc ar frys)
Mowr (y ffordd benodol y mae'r gair yn cael ei ynganu yn yr ardal gyda phwyslais ar y llythyren ‘o’ yn lle ‘a’)
Whompyn/whompen (rhywbeth o faint)