Lleisiau lleol Eisteddfod y Garreg Las: Holi Tomos, Cadeirydd Maes D
Gyda Eisteddfod y Garreg Las ar y gorwel, buon ni’n holi rhai o drigolion Sir Benfro.
Tomos Hopkins yw Cadeirydd pentref y dysgwyr, Maes D, eleni, a buon ni’n ei holi am yr Eisteddfod a’r ardal...
Wyt ti wedi mwynhau bod yn Gadeirydd Maes D?
Ydw, dw i wedi mwynhau cydweithio â’r tîm i drefnu Maes D, a dw i’n edrych ymlaen at groesawu dysgwyr i Lantwd, ger Aberteifi.
Beth allwn ni ei ddisgwyl ym Maes D eleni?
Bydd cyfleodd bob dydd i gael sgwrs a phaned, perfformiadau gan rai o artistiaid gorau Cymru gan gynnwys Vrї, Candelas, Bob Delyn a’r Ebillion, Lo-Fi Jones, Morgan Elwy ac Aleighcia Scott a Taff Rapids, a sgyrsiau panel gyda dysgwyr. Rhywbeth i bawb gobeithio. Mae’r amserlen ar gael yma: Rhaglen | Eisteddfod
Ble mae dy hoff le yn Sir Benfro?
Fy hoff le yn Sir Benfro yw traeth Porthmynawyd. Dych chi ddim yn gallu mynd yno yn y car – rhaid i chi gerdded ar lwybr yr arfordir.
Beth yw dy gyngor i ddysgwyr sy’n ymweld â maes yr Eisteddfod?
Dewch i gael sgwrs a phaned gyda ni ym Maes D am ddim. Bydd gweithgareddau hwyl gyda ni i ddysgwyr Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Beth yw dy hoff air tafodieithol sy’n perthyn i ardal Sir Benfro?
Fy hoff air yw ‘jinglarins’ sy’n golygu 'bling'.