Bydd digwyddiad ar faes Eisteddfod y Garreg Las yn trafod llwyddiant cyfres ddarllen ‘Amdani’, cynllun ar y cyd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru i greu llyfrau hamdden wedi’u graddoli yn ôl lefelau’r cwricwlwm Dysgu Cymraeg.
Ers lansio’r cynllun yn 2018, mae dros 50 o deitlau wedi’u cyhoeddi, ac mae dros 84,000 o lyfrau wedi’u gwerthu – camp sy’n adlewyrchu poblogrwydd y gyfres, a’r awydd gan ddysgwyr i ddarllen llyfrau Cymraeg.
Mae llyfrau amrywiol ar gael, o straeon ditectif a nofelau rhamant, i hunan-gofiannau a straeon byrion. Mae nifer o awduron adnabyddus wedi cyfrannu at y gyfres – gan gynnwys Bethan Gwanas, Manon Steffan Ros, Jon Gower a Siôn Tomos Owen – yn ogystal â dysgwyr, siaradwyr newydd a thiwtoriaid, yn eu plith Pegi Talfryn, Lois Arnold a Zoë Pettinger.
Mae’r cynllun yn arloesol am ei fod wedi creu cyfres o lyfrau sy’n addas ar gyfer pob dysgwr, p’un ai eu bod nhw ar ddechrau eu taith iaith, ar lefel Mynediad, neu’n siaradwr annibynnol ar ddechrau cyrsiau lefel Uwch.
Cafwyd cymorth Gwasg Prifysgol Caergrawnt wrth gynllunio’r fenter. I ddechrau, addaswyd rhai o lyfrau’r ‘Cambridge Readers’, cyfres ddarllen i gefnogi pobl sy’n dysgu siarad Saesneg, i’r Gymraeg, cyn troi at gomisiynu llyfrau gwreiddiol, sy’n cyfrif am gyfran helaeth y gyfres.
Mewn sesiwn ar stondin y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ym Maes D yn yr Eisteddfod am 11.00am ddydd Gwener, 7 Awst, bydd uwch swyddogion y Ganolfan a’r Cyngor Llyfrau yn trafod llwyddiant y gyfres.
Bydd cyfle i glywed am ddatblygiadau newydd, hefyd, sy’n cynnwys creu llyfrau ar wahân yn nhafodieithoedd y De a’r Gogledd ar lefel Mynediad (dechreuwyr), ac addasu llyfrau prif ffrwd Cymraeg ar gyfer lefel Uwch, fydd yn agor y drws ar waith cyfan awduron penodol.
Dywedodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan:
Mae darllen yn ffordd wych i’n dysgwyr ymarfer a mwynhau eu Cymraeg, gan atgyfnerthu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn eu gwersi, dysgu geirfa newydd a magu hyder i ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd pob dydd. “Mae llwyddiant y gyfres yn adlewyrchu’r cydweithio agos a chadarnhaol rhwng y Ganolfan, y Cyngor Llyfrau, y gweisg ac awduron. ’Dyn ni’n falch iawn o weld cymaint o ddysgwyr yn mwynhau’r dewis eang o lyfrau difyr sydd ar gael, ac edrychwn ymlaen at ehangu’r dewis ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau:
Mae cyfres ‘Amdani’ wedi dangos bod galw cryf am lyfrau Cymraeg o safon sydd wedi'u hanelu'n benodol at ddysgwyr. Mae'r gyfres wedi rhoi llwyfan i awduron profiadol ac awduron newydd fel ei gilydd, gan gyfoethogi'r dewis sydd ar gael i ddarllenwyr ar bob lefel. "’Dyn ni bellach yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy weithio’n fwy strategol a sicrhau’r dafodiaith briodol ar gyfer dysgwyr ar ddechrau eu taith, a gan addasu rhagor o lyfrau prif ffrwd ar ben arall eu taith, gyda’r nod yn y pen draw o gyflwyno dysgwyr i holl gyfoeth llyfrau Cymraeg.