Diolch i Dysgu Cymraeg Sir Benfro am rannu’r stori yma – pob hwyl i Barti Cae Blodau yn yr Eisteddfod!
Mae llawer o fwrlwm ym mhob cwr o ardal y Garreg Las wrth i bawb baratoi at yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddechrau mis Awst eleni.
Mae Laura, Megan, Liv, Olivia a Ros newydd orffen astudio cwrs Sylfaen 2 yng Nghanolfan Bloomfield, Arberth. Pan glywon nhw fod yr Eisteddfod yn dod i’r ardal ro’n nhw’n benderfynol o gymryd rhan mewn rhyw ffordd. Ar ôl gweld rhestr cystadlaethau Maes D penderfynon nhw ffurfio ‘Parti Cae Blodau’ i gystadlu ar gystadleuaeth y grŵp lleisiol.
“Dw i’n hoff iawn o gerddoriaeth werin yn enwedig Mari Mathais a dw i’n dysgu llawer wrth wrando ar ei chaneuon felly penderfynon ni ganu gwerin ar lwyfan Maes D,” meddai Ros.
“Dw i’n gyffrous iawn i fynychu a pherfformio yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf. ’Dyn ni wedi bod yn ymarfer ers wythnosau,” meddai Liv.
“Dw i’n disgwyl babi ym mis Awst felly gobeithio bydda i’n gallu perfformio gyda bwmp mawr yn yr Eisteddfod neu falle bydd y babi’n dod cyn yr Eisteddfod,” meddai Megan.
“Dw i’n edrych ymlaen at gystadlu eleni, mae’r maes yn lleol iawn i fi. Gobeithio bydd yr haul yn gwenu yn Llantwd drwy’r wythnos yn enwedig ar y dydd Iau!” meddai Laura.
Bydd ‘Parti Cae Blodau’ a llawer o ddysgwyr eraill yn cystadlu ym Maes D ar ddydd Iau y 6ed o Awst yn Eisteddfod y Garreg Las. Dewch i gefnogi a mwynhau cymdeithasu gyda dysgwyr eraill.