Mae ffederasiwn o ysgolion yn nwyrain Caerdydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu defnydd o’r Gymraeg, ar ôl i dros 50 aelod o staff ymrwymo i gryfhau eu sgiliau Cymraeg.
Wrth weithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae Ffederasiwn y Saint, sy’n cynnwys Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru’r Holl Saint ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, wedi cyflwyno mwy o Gymraeg ar lawr y dosbarth, sydd wedi ennyn brwdfrydedd newydd ymhlith y disgyblion.
Dechreuodd y daith yn dilyn arolygiad Estyn yn 2025, wnaeth nodi bod angen cryfhau sgiliau Cymraeg y disgyblion. O ganlyniad, mi wnaeth y Pennaeth Gweithredol, Claire Cook, gynnal arolwg mewnol. Dangosodd yr arolwg bod staff yn teimlo bod angen cefnogaeth ychwanegol arnynt i fedru defnyddio eu Cymraeg yn hyderus o ddydd i ddydd.
Mi wnaeth Claire gysylltu â thiwtor Gweithlu Addysg Caerdydd a’r Fro, sy'n gweithio i Brifysgol Caerdydd ac yn rhan o ddarpariaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer y Gweithlu Addysg, ac fe wnaethon nhw drefnu ystod o gyrsiau i’r staff.
Bob nos Fercher am 10 wythnos, dilynodd y staff gwrs ‘Cymraeg Bob Dydd’, ac mi wnaeth tri aelod o staff sy’n gyfrifol am y Gymraeg gwblhau cwrs dwys wythnos o hyd, wedi’i deilwra ar gyfer y Gweithlu Addysg.
Dywedodd Leah Williams, Athrawes Cyfnod Sylfaen ac un o Arweinyddion y Gymraeg:
"Mae’r sesiynau 'Cymraeg Bob Dydd' wedi rhoi’r hyder i mi a’r staff ddefnyddio’r iaith ar lawr y dosbarth a gyda’n gilydd. Mae gweld yr athrawon yn mwynhau dysgu’r iaith wedi cael effaith anhygoel ar y plant — maen nhw’n fwy parod i ddefnyddio’u Cymraeg wrth chwarae a gweithio. Mae’r awyrgylch ar draws yr ysgol wedi newid yn llwyr, ac mae’r Gymraeg yn rhan o’n diwrnod ni bellach.’’
Mae teuluoedd wedi gweld gwahaniaeth mawr yn y ffordd y mae’r plant yn defnyddio’r iaith adref, fel y mae Mrs Willets, rhiant yn yr ysgol, yn esbonio:
"Mae wedi bod yn wych gweld fy merch, Molly, yn magu mwy o hyder i ddefnyddio’i Chymraeg. Mae’n dod adref ac yn rhannu ymadroddion Cymraeg y mae hi wedi’u dysgu yn y dosbarth, ac mae wrth ei bodd yn y ‘Clwb Hwyl’ newydd sbon ar ôl ysgol. Mae’n amlwg bod gwaith caled yr athrawon yn talu ar ei ganfed, ac yn cael effaith gadarnhaol ar y plant.’’
Mae mwy o gynlluniau ar y gweill i gryfhau’r iaith ymhellach dros y flwyddyn sydd i ddod. Mae Mr Baker, Arweinydd Cwricwlwm y Ffederasiwn, wedi llwyddo i sicrhau lle ar y Cwrs Dysgu Cymraeg Dwys ar gyfer y Gweithlu Addysg o fis Medi ymlaen. Dyma gwrs Dysgu Cymraeg dwys dros ddau dymor ysgol, sy’n cael ei arwain gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Pan fydd yn dychwelyd, bydd Mr Baker yn ymgymryd â rôl strategol i fentora staff eraill a chadw’r momentwm i fynd.
Meddai Claire Cook, y Pennaeth Gweithredol:
"Mi wnes i ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith, felly dw i’n gwybod bod angen hyder i ddefnyddio’r iaith. Ar ôl ymweliad Estyn, ro’n i’n awyddus i weld pethau’n newid. Roedd gweld dros 50 o staff yn mynychu’r dosbarth Cymraeg bob nos Fercher yn ysbrydoledig. Mae’r plant bellach yn clywed y Gymraeg bob dydd, ond yn fwy pwysig, yn ei defnyddio. ’Dyn ni’n falch fod Mr Baker wedi cael lle ar y cwrs dysgu dwys – a ’dyn ni’n edrych ymlaen at weld y Gymraeg yn ffynnu fwyfwy yn y Ffederasiwn dros y blynyddoedd.’’