Wrth i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddathlu’r nifer uchaf o ddysgwyr erioed – dros 20,000 yn 2024-2025 – mae wedi cyhoeddi cynllun llysgenhadon newydd, gyda’r nod o ysbrydoli hyd yn oed yn fwy o bobl i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg.
Bydd y cynllun Llysgenhadon Dysgu Cymraeg yn cael ei lansio ddydd Sadwrn, 23 Mai ar Faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, fel rhan o ddathliadau ‘Diwrnod y Dysgwyr’ yr Eisteddfod.
Mae pedwar llysgennad blaenllaw wedi’u penodi fel rhan o’r cynllun newydd:
- Aleighcia Scott – y gantores a’r DJ, ac un o hyfforddwyr sioe S4C, Y Llais, sy’n cael ei hanrhydeddu â’r wisg Werdd yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026.
- Tori James – yr anturiaethwr a’r Gymraes gyntaf i ddringo Everest.
- Katie Owen – y DJ a’r dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol.
- Ian Gwyn Hughes – Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas
Bêl-droed Cymru.
Bydd y pedwar yn cynrychioli’r Ganolfan, gan rannu eu profiadau personol o’r Gymraeg, a thynnu sylw at waith y sector Dysgu Cymraeg. Byddant hefyd yn cefnogi ymgyrchoedd recriwtio, gan annog pobl o bob cefndir i ddechrau dysgu Cymraeg, neu i barhau â’u taith iaith.
Mae’r cynllun yn rhan o weledigaeth y Ganolfan i ddenu a chefnogi cynulleidfaoedd eang i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, gan gynnwys gweithluoedd, cymunedau, sectorau allweddol fel Iechyd a Gofal, y Gweithlu Addysg a Chwaraeon, pobl ifanc a theuluoedd.
Mae’r Ganolfan yn lansio’r cynllun ar faes Eisteddfod yr Urdd. Mae’r Ganolfan yn cydweithio â’r Urdd i gynnig cyfleoedd amrywiol i staff y mudiad, a’r bobl ifanc sy’n defnyddio ei gwasanaethau, i gryfhau eu sgiliau neu ddysgu’r iaith o’r newydd.
Mae’r Ganolfan hefyd yn falch o gefnogi gwobrau’r Urdd i ddysgwyr ifanc, Medal Bobi Jones, ar gyfer dysgwyr 19 oed ac yn hŷn, a Medal y Dysgwyr, ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Creu siaradwyr Cymraeg newydd yw prif nod y Ganolfan, a’u cefnogi i fwynhau defnyddio’r iaith yn hyderus yn eu bywydau pob dydd. Dw i’n falch o ddweud bod y sector Dysgu Cymraeg yn mynd o nerth i nerth, gyda mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn cwblhau ein cyrsiau.
“’Dyn ni’n gyffrous iawn bod criw brwd o lysgenhadon yn ymuno â ni, i rannu eu profiadau o’r Gymraeg ac i hyrwyddo a dathlu ein gwaith. ’Dyn ni’n falch o gyhoeddi’r cynllun newydd ar faes Eisteddfod yr Urdd, un o’n partneriaid.
“Mae’r Ganolfan yn gweithio’n greadigol ac mewn partneriaeth â gwahanol sectorau, gan ddarparu un llwybr dysgu clir ar gyfer dod yn siaradwr Cymraeg. ’Dyn ni i gyd yma i groesawu a chefnogi’n dysgwyr a siaradwyr newydd, ar hyd pob cam o’u taith iaith.”
Meddai Aleighcia Scott: “Dw i’n falch iawn i fod yn rhan o’r cynllun yma. Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn daith bersonol bwysig i fi, ac wedi agor drysau newydd – yn greadigol ac yn gymdeithasol.”
Meddai Tori James: “Mae dysgu sgil newydd ychydig fel dringo mynydd – mae’n gallu bod yn sialens, ond mae pob cam bach yn llwyddiant! Dw i’n falch iawn o’r cyfle i gefnogi pobl i gymryd y cam cyntaf i ddysgu Cymraeg, ac i ddal ati – mae’r daith yn un werth chweil.”
Meddai Katie Owen: “Ro’n i wastad eisiau dysgu Cymraeg, a dyma’r peth gorau i fi wneud. Mae’r gymuned Gymraeg mor groesawgar a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddysgu a defnyddio’r iaith.”
Meddai Ian Gwyn Hughes: “Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae wedi bod yn wych i weld yr ymateb cadarnhaol i’n defnydd o’r iaith yn y Gymdeithas Bêl-droed. Dw i’n edrych ymlaen at gefnogi gwaith y Ganolfan i ehangu defnydd o’r Gymraeg mewn pob math o gyd-destunau.”
Llun Tori James (Huw James)
Llun Aleighcia Scott (Yolanda Kingdon)