Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Dysgu Cymraeg Dwys

(Cynllun Sabothol)

Cyrsiau Dysgu Cymraeg Dwys (Cynllun Sabothol)

Mae'r rhaglenni hyn yn cynnig cyfle i ddysgu Cymraeg mewn cyfnod cymharol fyr drwy ddysgu dwys dros gyfnod penodol. Gall athrawon cynradd wneud cais am gwrs Cynllun Sabothol y Gymraeg sy'n para dau dymor, ac sy'n rhedeg o fis Medi hyd at y Pasg. Yn ogystal, mae cyrsiau dwys byrrach yn nhymor yr haf ar gael i athrawon cynradd, athrawon uwchradd a chynorthwywyr dysgu.

Caiff y rhan fwyaf o gostau cyflenwi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, gan helpu ysgolion a lleoliadau i gefnogi cyfranogiad staff. Yn ogystal, ad-delir costau teithio ar gyfer diwrnodau dysgu wyneb yn wyneb.

Gallwch ddarllen rhagor am y cyrsiau sydd ar gael yn ystod 2026/27 isod, ynghyd â manylion ynghylch sut i wneud cais.

Darperir y rhaglenni gan dri darparwr sy'n gwasanaethu tair ardal ddaearyddol:

Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam)

Canolbarth a De-orllewin Cymru (Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot)

De Cymru (Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy)

Cwrs Dwys Dau Dymor

Mae'r Cwrs Dwys Dau Dymor yn gyfle i Ymarferwyr Addysg ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn ystod Tymor yr Hydref a Thymor y Gwanwyn (Tymor 1 a 2).

Cwrs i Bwy: Athrawon ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg sydd â rhywfaint o sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg (Athrawon y Cyfnod Sylfaen a/neu CA2).

Lefel: Sylfaen a Chanolradd

Tymor 1 (Tymor yr Hydref) – Lefel Sylfaen (A2)                                        

Tymor 2 (Tymor y Gwanwyn) – Lefel Canolradd (B1)

Hyd: 2 dymor ysgol, llawn amser

Lleoliad: 3 diwrnod rhithiol a 2 ddiwrnod mewn ‘Hwb’ lleol

Bwriad y cwrs:

Dysgu’r iaith a dysgu sut i addysgu’r Gymraeg yn drawsgwricwlaidd yn effeithiol yn yr ysgol.

Dysgu am fethodolegau dysgu iaith er mwyn arfogi’r athrawon â’r sgiliau angenrheidiol i godi safonau yn yr ysgol.

Cwrs Dwys Dau Dymor

Cyrsiau Tymor yr Haf 2027

Gogledd Cymru: Cyrsiau Tymor yr Haf 2027

Dyma'r cyrsiau sydd ar gael yng Ngogledd Cymru (Sir Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam):

Cwrs

Dyddiadau

Nifer o ddiwrnodau

Lleoliad

Athrawon Cynradd: Lefel Sylfaen 11 Wythnos (A2)

19 Ebrill 2027 - 9 Gorffennaf 2027

55

Llanelwy ac Ar-lein

Cynorthwy-wyr Dysgu: Lefel Mynediad (A1)

7 Mehefin 2027 - 9 Gorffennaf 2027

25

Llanelwy

Canolbarth a'r De-Orllewin: Cyrsiau Tymor yr Haf 2027

Dyma'r cyrsiau sydd ar gael yn y Canolbarth a'r De-Orllewin (Sir Powys, Sir Ceredigion, Sir Gâr, Sir Benfro, Dinas a Sir Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot)

Cwrs

Dyddiadau

Nifer o ddiwrnodau

Lleoliad

Cymraeg Proffesiynol: Lefel Gloywi (C1/C2)

5 Ebrill 2027 - 18 Mai 2027

15 (2 ddiwrnod yr wythnos)

Caerfyrddin

Cynorthwy-wyr Dysgu Sector Cynradd: Lefel Mynediad (A1)

7 Mehefin 2027 - 9 Gorffennaf 2027

25

Abertawe

De Cymru: Cyrsiau Tymor yr Haf 2027

Dyma'r cyrsiau sydd ar gael yn De Cymru (Pen y bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd, Mynwy):

Cwrs

Dyddiadau

Nifer o ddiwrnodau

Lleoliad

Athrawon Cynradd: Lefel Sylfaen 11 Wythnos (A2)

12 Ebrill 2027 - 2 Gorffennaf 2027

55

Caerdydd

Cynorthwy-wyr Dysgu Sector Cynradd fel Model Iaith: Lefel Gloywi (C1/C2)

14 Ebrill 2027 - 13 Mai 2027

10 (2 ddiwrnod yr wythnos)

Caerdydd

Athrawon Addysg Gorfforol: Lefel Mynediad (A1)

7 Mehefin 2027 - 25 Mehefin 2027

15

Caerdydd

Gwneud Cais am Gwrs Dwys (Cynllun Sabothol)

Bydd ceisiadau ar gyfer y cwrs dau dymor 2027 yn agor ym mis Ionawr 2027. Yn y cyfamser, mae gennyn ni amrywiaeth o gyrsiau ar gael i'r Gweithlu Addysg yma.

Oes gennych ddiddordeb mewn cwrs tymor yr haf 2027? Cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb yma. Bydd angen cyflwyno cais ffurfiol yn nes ymlaen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae pob croeso i chi gysylltu trwy e-bostio cymorth@dysgucymraeg.cymru