Mae'r cwrs Gloywi: Gwella Eich Cymraeg wedi'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr addysg sydd eisoes â gwybodaeth dda o'r Gymraeg ac sydd am adnewyddu, cryfhau ac ymestyn eu sgiliau iaith.
Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy 10 awr o hunan-astudio ar-lein mewn dau ran, gan gynnig cyfle hyblyg i ailedrych ar batrymau iaith allweddol, ehangu geirfa a meithrin hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy naturiol a rhugl mewn cyd-destunau proffesiynol.
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar iaith ymarferol y gellir ei defnyddio mewn cyfathrebu bob dydd gyda dysgwyr, cydweithwyr, rhieni a'r gymuned ysgol ehangach. Mae'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle a datblygu mwy o hyder wrth siarad ac ysgrifennu'r iaith.
Cliciwch y teils isod i gychwyn.