Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cofrestru

Eisiau cofrestru ar gwrs? ’Dyn ni yma i’ch helpu.
Croeso

’Dyn ni wedi paratoi rhestr o gwestiynau fydd yn eich helpu wrth gofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg.

Os na allwch ddod o hyd i’r ateb isod, cysylltwch â ni trwy ddilyn y ddolen nesaf: 

Cwestiynau Dysgu Cymraeg

Cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg

Dych chi’n gallu defnyddio ffurflen gofrestru papur a’i hanfon at eich darparwr cwrs drwy’r post, neu e-bostio llun o’r ffurflen.   

I gael copi o’r ffurflen, cysylltwch â’ch darparwr cwrs.  Maen nhw hefyd yn gallu eich helpu gyda’r broses gofrestru. 

Dych chi’n gallu cofrestru drwy ddefnyddio ffurflen gofrestru papur. 

Fodd bynnag, mae cyfeiriad e-bost yn sicrhau eich bod yn gallu: 

- cael mynediad at ymarferion sy’n cyd-fynd â’ch cwrs 

- derbyn newyddion am ddigwyddiadau 

- rhoi adborth am eich profiad 

Dych chi’n gallu creu cyfeiriad e-bost yn hawdd, a gall eich darparwr cwrs roi cymorth i chi. 

’Dyn ni’n awgrymu eich bod chi’n... 

- gwirio fod yr holl flychau hanfodol wedi eu llenwi 

- gwirio fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir 

- gwirio eich ffolder junk neu spam 

- clirio storfa (cache) eich porwr 

Os dych chi’n dal i gael problem, cysylltwch â’ch darparwr cwrs.   

Dych chi’n barod wedi rhoi rhai manylion wrth greu cyfrif ar dysgucymraeg.cymru.  Nid oes angen rhoi’r holl wybodaeth eto, ond bydd angen rhoi rhywfaint o wybodaeth wrth gofrestru ar gwrs arall. 

Mae hyn yn sicrhau bod eich manylion yn gywir ac yn gyfredol.   

Cysylltwch â’ch darparwr cwrs.  Byddant yn gallu’ch helpu i gofrestru ar y cwrs cywir.   

Mae’n ddrwg gyda ni am hyn.  ’Dyn ni’n awgrymu eich bod chi’n: 

- gwirio fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir 

- gwirio fod y neges ddim yn y blwch junk neu spam 

Os dych chi'n dal i gael problem, cysylltwch â'ch darparwr cwrs.  Bydd eich darparwr yn gwirio eich cofrestriad, ac yn rhoi mwy o gymorth.   

Ar y ffurflen gofrestru, rhaid rhoi cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig.  Efallai bydd eich darparwr cwrs yn cysylltu â chi i ofyn am fwy o wybodaeth cyn i chi ddechrau’r cwrs. 

Dych chi’n gallu ailosod eich cyfrinair wrth ddewis y botwm ‘Mewngofnodi.’  Mae’r botwm  ‘Mewngofnodi’ ar dop pob tudalen. 

Bydd un o’n tiwtoriaid yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau.  Os oes lle ar y cwrs a’ch bod ar y lefel gywir, fel arfer mae’n bosib ymuno’n hwyr. 

Cymorth pellach

Unrhyw gwestiwn arall?  Mae croeso i chi lenwi’r ffurflen isod.

Bydd eich adborth yn helpu ni i wella ein gwasanaethau, a sicrhau bod dysgwyr yn cael y profiad gorau posibl.

Cysylltu â ni