Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ymholiadau technegol

Eisiau gofyn cwestiwn technegol? 'Dyn ni yma i helpu.
Croeso

’Dyn ni wedi paratoi rhestr o gwestiynau sy'n mynd i fod o gymorth gyda phroblemau technegol.

Os na allwch ddod o hyd i’r ateb isod, cysylltwch â ni trwy ddilyn y ddolen nesaf:

Cwestiynau Dysgu Cymraeg

Ymholiadau technegol

’Dyn ni’n diweddaru ein system yn aml i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. 

Mae’n bwysig cadw’ch porwr yn gyfredol, er mwyn: 

- cadw eich dyfais yn ddiogel 

- sicrhau bod y tudalennau gwe yn gweithio’n iawn 

- sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau wrth ddefnyddio’r system 

Nid yw ein hadnoddau’n gweithio gydag Internet Explorer (IE11).  ’Dyn ni’n argymell eich bod chi’n defnyddio porwr arall fel: 

Microsoft Edge 

Google Chrome 

Mozilla Firefox 

Mae storfa (cache) eich porwr yn cadw data fel lluniau a thudalennau gwe er mwyn eu llwytho’n gynt.  Mae’r data yma’n cael ei gadw ar eich dyfais (cyfrifiadur, gliniadur, tabled neu ffôn clyfar). 

Gan ein bod yn diweddaru’r wefan yn aml, gall clirio’r storfa helpu i sicrhau eich bod yn gweld y fersiwn ddiweddaraf o’r wefan. 

Os na wnewch chi, gall hyn achosi problemau gyda’r gwasanaeth ar ein gwefan. 

Dyma rai dolenni allanol i’ch helpu i glirio storfa ar rai porwyr cyffredin: 

Microsoft Edge 

Google Chrome 

Safari (mobile, tablet) 

Safari (PC, laptop) 

Mozilla Firefox 

Mae rhai dysgwyr yn defnyddio dyfeisiau gwaith i gael mynediad i’n hadnoddau.  Weithiau, gall hyn achosi problemau oherwydd gosodiadau diogelwch y sefydliad. 

Os cewch chi anhawster: 

- gwiriwch a oes firewalls neu VPN yn rhedeg 

- os oes angen, gofynnwch i’ch tîm TG mewnol i wirio a oes angen rhoi’r wefan ar restr wen (whitelist) 

Cymorth pellach

Unrhyw gwestiwn arall?  Mae croeso i chi lenwi’r ffurflen isod.

Bydd eich adborth yn helpu ni i wella ein gwasanaethau, a sicrhau bod dysgwyr yn cael y profiad gorau posibl.

Cysylltu â ni

Cofiwch gynnwys cymaint o wybodaeth â phosib. e.e. os ydych chi'n defnyddio un o'n cyrsiau ar-lein, cofiwch gynnwys enw'r cwrs, rhif uned a rhif sleidiau.
Llwythwch unrhyw wybodaeth a allai ein helpu i ddatrys eich mater yn gyflymach e.e. screenshot o'r dudalen, clip fideo cyflym