Mae cynlluniau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer gweithluoedd yn parhau i gryfhau sgiliau dwyieithog ar draws Cymru.
Yn ôl data diweddaraf y Ganolfan Genedlaethol, mae mwy nag erioed yn dysgu Cymraeg, dros 20,000 o bobl, a bron 40% ohonynt yn dilyn cyrsiau yn y gweithle.
Mae’r Ganolfan yn teilwra ystod o gynlluniau ar gyfer sectorau allweddol a chyflogwyr mawr, gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweithlu Addysg a’r Gwasanaethau Brys.
Ers lansio’r cynlluniau yn 2018, mae 30,000 o weithwyr wedi cymryd rhan, ac mae Estyn wedi canmol y cynlluniau am eu heffaith gadarnhaol ar gryfhau sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd ledled y wlad.
Heddlu Gwent yw’r diweddaraf i ymuno â rhestr gynyddol o gyflogwyr sy’n buddsoddi mewn datblygu sgiliau Cymraeg eu staff.
Yn Heddlu Gwent, mae tiwtor Dysgu Cymraeg, Esther Attree, yn gweithio ar leoliad, gan ddarparu cyfleoedd dysgu hyblyg i heddweision a staff cefnogi, gan gynnwys cyrsiau ar wahanol lefelau a sesiynau Codi Hyder i gefnogi siaradwyr Cymraeg di-hyder.
Mae cynlluniau tebyg rhwng y Ganolfan Genedlaethol a Heddlu De Cymru hefyd ar waith.
Yng Ngwent, mae’r ddarpariaeth yn cael ei chydlynu’n lleol gan Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Gwent, un o ddarparwyr cyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.
Yn Heddlu Gwent, rydym wedi ymroi i gynyddu defnydd o’r Gymraeg, ac wrth weithio ag Esther a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg, rydym yn cefnogi swyddogion a staff i ddatblygu hyder a sgiliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol wrth eu gwaith bob dydd. Mae hyn yn cefnogi ein gweledigaeth i fod yn wasanaeth heddlu cynhwysol, ac yn sicrhau bod pawb yn ein cymunedau’n teimlo eu bod yn gallu cyfathrebu â ni yn eu hiaith ddewisol. Trwy fuddsoddi yn ein pobl a chreu cyfleoedd dysgu hygyrch, rydym yn cryfhau ein cysylltiad â’r cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu, ac yn parhau i feithrin ymddiriedaeth ledled ein cymunedau.
Mark Hobrough, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent.
Mae’r Ganolfan yn cydweithio’n agos â chyflogwyr mewn sectorau allweddol i ddarparu hyfforddiant pwrpasol a hyblyg sy’n ateb anghenion gweithluoedd penodol. Y nod yw cynyddu hyder staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith a chryfhau’r gwasanaethau i’r cyhoedd. Mae’r dull yma o weithio yn un poblogaidd ac yn creu mwy a mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu a defnyddio’r Gymraeg. ’Dyn ni’n falch iawn bod Heddlu Gwent wedi ymuno â’n cynlluniau.
Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Dyma luniau o'r tiwtor, Esther Attree a rhai o ddysgwyr Heddlu Gwent.